Cowydd ir haf
1 Gwae fi hîl eiddil Addaf
2 fowrdwy rhâd fyred yr haf
3 rho dyw gwîr mae dihiraf
4 rhâg i ddarfod ddyfod haf
5 a llednais wybr ewybraf
6 a llawen havl ai lliw n hâf
7 ag awyr erwyr araf
8 ar byd mor hyfrvd r haf
9 knwd da iawn knawd dianaf
10 o ddayar hên a ddaw r hâf
11 i dyvu glassv glwysaf
12 dail ar goed ir rhoed r haf
13 gan weled hardd y chwarddaf
14 gwalld ar ben hoewfedwen haf
15 paradwys iddo prydaf
16 pwy ni chwardd pan fo hardd hâf
17 glôd anianol i molaf
18 glwysfodd wiail rhoedd r hâf
19 denai geirw dyn a garaf
20 dan frig i rhyfig r haf
21 y gôg serchog ôs archaf
22 a gân ddiwedd hevan haf
23 glâs gain edn glwys geniadaf
24 gloch osber am hanner haf
25 [4] bangaw bais eâs dlosaf
26 bwyntvs hy dan bentis haf
27 ar keiliog or frwydr kiliaf
28 bro fraith gyw hoew loywiaith haf
29 dyn a fydd hirddydd harddaf
30 a draidd gair hyfaidd r haf
31 eiddig kyswynfab Addaf
32 ni ddawr hwn er na ddâwr hâf
33 rhoed i gyfoed or gayaf
34 a rhan serchogion yw r hâf
35 minnav dan fedw nis mynaf
36 mewn tai llwyn ond mentill haf
37 gwisgo gwê lân am danaf
38 pybyr gwnswallt harddwallt hâf
39 iddaw dail i'dd addolaf
40 annwyd ni bydd hirddydd hâf
41 lledneisferch os anherchaf
42 llonn yw'r wyl honn ar ael hâf
43 gwn na lwydd arwydd oeraf
44 gwahardd ar hoewfardd r hâf
45 gwynt ni âd gwasgad gwisgaf
46 gwydd ymhwynt gwae oedd am hâf
47 hiraeth nid ymddihevraf
48 dan fy mron em hon an haf.
da: gwilim