â â â Mawl i'r Haf
1â â â Tydi'r haf, tad y rhyfig,
2â â â Tadwys, ced brywys, coed brig,
3â â â Teg wdwart, feistr tew goedallt,
4â â â Twr pawb wyd, töwr pob allt.
5â â â Tydi a bair, air wryd,
6â â â Didwn ben, dadeni byd.
7â â â Tydi sydd, berydd barabl,
8â â â Tyddyn pob llysewyn pabl,
9â â â Ac eli tw', ddodw ddadl,
10â â â Ac ennaint coedydd gynnadl.
11â â â Da y gwyr, myn Duw a gerir,
12â â â Dy law cadeiriaw coed ir.
13â â â Hoff anian bedwar ban byd,
14â â â Uthr y tyf o'th rad hefyd
15â â â Adar a chnwd daear teg
16â â â A heidiau yn ehedeg,
17â â â Bragwair gweirgloddiau brigwydr,
18â â â Bydafau a heidiau hydr.
19â â â Tadmaeth wyd, proffwyd priffyrdd,
20â â â Teml daearllwyth, garddlwyth gwyrdd.
21â â â Impiwr wyd i'm pur adail,
22â â â Impiad, gwiw ddeiliad gwe ddail.
23â â â A drwg yw yn dragywydd
24â â â Nesed Awst, ai nos ai dydd,
25â â â A gwybod o'r method maith,
26â â â Euraid deml, yr aut ymaith.
27â â â 'Manag ym, haf, mae'n gam hyn,
28â â â Myfy a fedr d'ymofyn,
29â â â Pa gyfair neu pa gyfoeth,
30â â â Pa dir ydd ai, er Pedr ddoeth?'
31â â â 'Taw, fawlfardd, tau ofalfydr,
32â â â Taw, fost feistrol hudol hydr.
33â â â Tynghedfen ym, rym ramant,
34â â â Tywysog wyf,' tes a gant,
35â â â 'Dyfod drimis i dyfu
36â â â Defnyddiau llafuriau llu,
37â â â A phan ddarffo do a dail
38â â â Dyfu a gwëu gwiail,
39â â â I ochel awel aeaf
40â â â I Annwfn o ddwfn ydd af.'
41â â â Aed bendithion beirddion byd
42â â â A'u can hawddamor cennyd.
43â â â Yn iach, frenin yr hinon,
44â â â Yn iach, ein llywiawdr a'n iôn,
45â â â Yn iach, y cogau ieuainc,
46â â â Yn iach, hin Fehefin fainc,
47â â â Yn iach, yr haul yn uchel
48â â â A'r wybren dew, bolwen bêl.
49â â â Deyrn byddin, dioer ni byddy
50â â â Yn gyfuwch, fron wybrluwch fry,
51â â â Oni ddêl, digel degardd,
52â â â Eilwaith yr haf a'i lethr hardd.