Mawl i'r Haf
Tydi'r haf, tad y beiddgarwch,
Tad coed brigog, anrheg wych,
coedwigwr hardd, meistr allt o goed trwchus,
4 ti yw twr pawb, töwr pob allt.
Tydi sy'n peri aileni'r byd,
gwroldeb hysbys, pennaeth diddiffyg.
Tydi yw magwrfa pob planhigyn ffyniannus,
8 un sy'n enwog fel crëwr,
ac eli tyfiant, sôn am ddodwy,
ac ennaint cydgymysgu'r coed.
Mae dy law'n gwybod yn iawn sut mae
12 helaethu coed gwyrdd, myn Duw annwyl.
Hoff gyflwr pob man yn y byd,
rhyfeddol y tyf hefyd o'th ras
adar a chnydau teg y ddaear
16 a heidiau yn hedfan,
gwair bras y dolydd disglair eu brig,
nytheidiau a heidiau niferus o wenyn.
Tad maeth wyt ti i lwythi gwyrdd y gerddi,
20 proffwyd yr heolydd mawr, pentwr cnwd y ddaear.
Un sy'n peri i'm hadeilad glân egino,
eginiad, deilio teg gwead o ddail.
A drwg yw yn dragwyddol
24 bod mis Awst mor agos, nos a dydd,
a gwybod o'r dirywiad graddol
y byddet yn mynd i ffwrdd, y pentwr ysblennydd.
'Dywed wrthyf, haf, mae hyn yn annheg,
28 mi fedra'i dy holi,
i ba barth neu i ba deyrnas,
i ba dir y byddi di'n mynd, er mwyn Pedr ddoeth?'
'Taw, fardd mawl, â'th gân bryderus,
32 taw, ymffrost meistrolgar dewin grymus.
Y mae tynged i mi, argoel rymus,
tywysog wyf i,' (yr heulwen a ganodd)
'sef dod am dri mis i dyfu
36 defnyddiau llawer o gnydau,
a phan fo brigau a dail yn gorffen
tyfu, a phlethu canghennau,
i ddianc rhag gwynt y gaeaf
40 i Annwfn o'r byd yr af.'
Boed i fendithion beirdd y byd
a'u cyfarchion lu fynd gyda thi.
Ffarwél, frenin y tywydd braf,
44 ffarwél, ein rheolwr a'n harglwydd,
ffarwél, y cogau ifainc,
ffarwél, tywydd braf llechweddau Mehefin,
ffarwél, yr haul yn uchel
48 a chwmwl tew [fel] pêl â bol gwyn.
Arweinydd byddin, diau na fyddi
mor uchel, pentwr o gwmwl wedi lluwchio uchod,
hyd nes y daw'r haf yn ôl
52 a'i lechwedd hardd, gardd deg agored.