ir haf
1 Tydi yw'r haf tad y rhyfig
2 tadwys koed brwys kavad brig
3 [85] teg wdriad feistr tew goedallt
4 twr pawb wyd toywr pob allt
5 ty di a bair air wryd
6 di dwn ben dadeni byd
7 ty di sydd berydd barabl
8 tyddyn pob llysewyn sabl
9 ag eli twf ddevdwf ddadl
10 ag enaint koed teg anadl
11 da i gwyr myn dvw a gerir
12 dy law kadeiriaw koed ir
13 oth anian pedwar ban byd
14 eithr i twf oth rad hefyd
15 adar a chnwd dayar deg
16 a heidiav ant i hedeg
17 a gwellt gweigloddiav brig wyrdd
18 ag yday heidiav hydyrdd
19 tadmaeth wyd broffwyd briffyrdd
20 telm davarllwyth garllwyth gwyrdd
21 Impiwr wyd om pvr adail
22 impiad gwiw ddaliad gwe ddail
23 [86] a drwg yw yn dragywydd
24 nesed Awst i nos ai dydd
25 a gwybod or mowrglod maith
26 avraid teml i rait ymaith
27 myneg ym haf mae'n gam hyn
28 my fi a feidir dy 'mofyn
29 o by gafod bai gyfoeth
30 pa dir i ddei er peder ddoeth
31 Taw fawlfardd tav ofalfvdr
32 taw fost feistrawl hvdawl hydr
33 tynghedfen ym rym ramant
34 twysog wyf y tes i gant
35 dyfod drimis i dyfv
36 defnyddiav a lliwiav llv
37 a ffen ddarffo do y dail
38 tyfv a gwev y gwiail
39 i ochel awel avaf
40 i Anwfn yn ddwfn y ddaf
41 aed bendithion beirddion byd
42 ai can hawddamawr kennyd
43 yn iach frenin yr hinon
44 yn iach i levad yn Ion
45 [87] yn iach y kogav iavaink
46 yn iach hin fihefin faink
47 yn iach yr havl yn vchel
48 yn iach wybren felen fel
49 dring dair fyddying dioer fyddy
50 y gyfywch fron wybrlywch fry
51 nes del ddiogel ddigardd
52 eilwaith yr haf i lethr hardd
Da ap Gwilim