â â â Cyngor y Bioden
1â â â A mi'n glaf er mwyn gloywferch
2â â â Mewn llwyn yn prydu swyn serch
3â â â Ddiwarnawd, pybyrwawd pill,
4â â â Ddichwerw wybr, ddechrau Ebrill,
5â â â A'r eos ar ir wiail,
6â â â A'r fwyalch deg ar fwlch dail,
7â â â Bardd coed, mewn trefngoed y trig,
8â â â A bronfraith ar ir brenfrig
9â â â Cyn y glaw yn canu'n glau
10â â â Ar las bancr eurlwys bynciau,
11â â â A'r ehedydd, lonydd lais,
12â â â Cwcyllwyd edn cu callais,
13â â â Yn myned drwy ludded lwyr
14â â â Â chywydd i entrych awyr
15â â â (O'r noethfaes, adlaes edling,
16â â â Yn wysg ei gefn drefn y dring):
17â â â Minnau, fardd rhiain feinir,
18â â â Yn llawen iawn mewn llwyn ir,
19â â â A'r galon fradw yn cadw cof,
20â â â A'r enaid yn ir ynof,
21â â â Gan addwyned gweled gwydd,
22â â â Gwaisg nwyf, yn dwyn gwisg newydd,
23â â â Ac egin gwin a gwenith
24â â â Ar ôl glaw araul a gwlith,
25â â â A dail glas ar dâl y glyn
26â â â A'r draenwydd yn ir drwynwyn.
27â â â Myn y nef, yr oedd hefyd
28â â â Y bi, ffelaf edn o'r byd,
29â â â Yn adeilad, brad brydferth,
30â â â Ym mhengrychedd perfedd perth,
31â â â O ddail a phriddgalch, balch borth,
32â â â A'i chymar yn ei chymorth.
33â â â Syganai'r bi, gyni gwyn,
34â â â Drwynllem falch ar y draenllwyn:
35â â â 'Mawr yw dy ferw, goegchwerw gân,
36â â â Henwr, wrthyd dy hunan.
37â â â Gwell yt, myn Mair, air aren,
38â â â Gerllaw tân, y gwr llwyd hen,
39â â â Nog yma ymhlith gwlith a glaw
40â â â Yn yr irlwyn ar oerlaw.'
41â â â 'Dydi bi, du yw dy big,
42â â â Uffernol edn tra ffyrnig,
43â â â Taw â'th sôn, gad fi'n llonydd,
44â â â Er mwyn Duw, yma'n y dydd.
45â â â Mawrserch ar ddiweirferch dda
46â â â A bair ym y berw yma.'
47â â â 'Ofer i ti, gweini gwyd,
48â â â Llwyd anfalch gleirch lled ynfyd,
49â â â Syml a arwydd am swydd serch,
50â â â Ymlafar i am loywferch.'
51â â â 'Mae i tithau, gau gymwy,
52â â â Swydd faith a llafur sydd fwy:
53â â â Töi nyth fal twyn eithin,
54â â â Tew fydd crowyn briwydd crin.
55â â â Mae yt blu brithddu, cu cyfan,
56â â â Affan a bryd, a phen brân.
57â â â Mwtlai wyd di, mae yt liw teg,
58â â â Mae yt lys hagr, mae yt lais hygreg,
59â â â A phob iaith bybyriaith bell
60â â â A ddysgud, breithddu asgell.
61â â â Dydi, bi, du yw dy ben,
62â â â Cymorth fi, cyd bych cymen,
63â â â A gosod gyngor gorau
64â â â A wypych i'r mawrnych mau.'
65â â â 'Nychlyd fardd, ni'th gâr
harddfun,
66â â â Nid oes yt gyngor ond un:
67â â â Dwys iawn fydr, dos yn feudwy,
68â â â - Och wr mul - ac na châr mwy.'
69â â â Myn fy nghred, gwylied Geli,
70â â â O gwelaf nyth byth i'r bi,
71â â â Na bydd iddi hi o hyn
72â â â Nac wy, dioer, nac ederyn.