Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(img)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigCyngor y Bioden A mi'n glaf er mwyn gloywferch Mewn llwyn yn prydu swyn serch Ddiwarnawd, pybyrwawd pill, Ddichwerw wybr, ddechrau Ebrill, A'r eos ar ir wiail, A'r fwyalch deg ar fwlch dail, Bardd coed, mewn trefngoed y trig, A bronfraith ar ir brenfrig Cyn y glaw yn canu'n glau Ar las bancr eurlwys bynciau, A'r ehedydd, lonydd lais, Cwcyllwyd edn cu callais, Yn myned drwy ludded lwyr  chywydd i entrych awyr (O'r noethfaes, adlaes edling, Yn wysg ei gefn drefn y dring): Minnau, fardd rhiain feinir, Yn llawen iawn mewn llwyn ir, A'r galon fradw yn cadw cof, A'r enaid yn ir ynof, Gan addwyned gweled gwydd, Gwaisg nwyf, yn dwyn gwisg newydd, Ac egin gwin a gwenith Ar ôl glaw araul a gwlith, A dail glas ar dâl y glyn A'r draenwydd yn ir drwynwyn. Myn y nef, yr oedd hefyd Y bi, ffelaf edn o'r byd, Yn adeilad, brad brydferth, Ym mhengrychedd perfedd perth, O ddail a phriddgalch, balch borth, A'i chymar yn ei chymorth. Syganai'r bi, gyni gwyn, Drwynllem falch ar y draenllwyn: 'Mawr yw dy ferw, goegchwerw gân, Henwr, wrthyd dy hunan. Gwell yt, myn Mair, air aren, Gerllaw tân, y gwr llwyd hen, Nog yma ymhlith gwlith a glaw Yn yr irlwyn ar oerlaw.' 'Dydi bi, du yw dy big, Uffernol edn tra ffyrnig, Taw â'th sôn, gad fi'n llonydd, Er mwyn Duw, yma'n y dydd. Mawrserch ar ddiweirferch dda A bair ym y berw yma.' 'Ofer i ti, gweini gwyd, Llwyd anfalch gleirch lled ynfyd, Syml a arwydd am swydd serch, Ymlafar i am loywferch.' 'Mae i tithau, gau gymwy, Swydd faith a llafur sydd fwy: Töi nyth fal twyn eithin, Tew fydd crowyn briwydd crin. Mae yt blu brithddu, cu cyfan, Affan a bryd, a phen brân. Mwtlai wyd di, mae yt liw teg, Mae yt lys hagr, mae yt lais hygreg, A phob iaith bybyriaith bell A ddysgud, breithddu asgell. Dydi, bi, du yw dy ben, Cymorth fi, cyd bych cymen, A gosod gyngor gorau A wypych i'r mawrnych mau.' 'Nychlyd fardd, ni'th gâr harddfun, Nid oes yt gyngor ond un: Dwys iawn fydr, dos yn feudwy, - Och wr mul - ac na châr mwy.' Myn fy nghred, gwylied Geli, O gwelaf nyth byth i'r bi, Na bydd iddi hi o hyn Nac wy, dioer, nac ederyn.