Cyngor y Bioden
A mi'n sâl o achos merch hardd
mewn coedwig yn canu am hyfrydwch serch
un diwrnod, pwt o gân fywiog,
4 a'r awyr yn fwyn, ar ddechrau mis Ebrill,
a'r eos ar frigau gwyrdd,
a'r fwyalchen hardd ar ben mur castell dail,
bardd y goedwig, mae'n trigo mewn ty o goed,
8 a bronfraith ar frig gwyrdd coeden
cyn y glaw yn canu'n glir
nodau prydferth ar gwrlid gwyrdd,
a'r ehedydd, llais digyffro,
12 aderyn annwyl â phenwisg lwyd a llais pwyllog,
yn mynd gydag ymdrech fawr
â chywydd yn uchel i'r awyr
(o'r tir agored, tywysog petrus,
16 am-yn-ôl yw ei ddull o ddringo):
minnau, bardd merch fain a thal,
yn llawen iawn mewn llwyn gwyrdd,
a'r galon dreuliedig yn cadw cof,
20 a'r enaid yn ffres y tu mewn i mi,
gan mor hyfryd oedd gweld y coed
yn gwisgo dillad newydd, egni bywiog,
ac egin gwinwydd a gwenith
24 ar ôl glaw disglair a gwlith,
a dail gwyrdd ar ben uchaf y cwm,
a brigau'r coed drain yn ffres a gwyn.
Myn y nef, roedd pioden yna hefyd,
28 yr aderyn cyfrwysaf yn y byd,
yn adeiladu, ystryw parod,
yng nghanol drysni'r berth,
[nyth] o ddail a phridd calchog, mynedfa wych,
32 a'i chymar yn ei chynorthwyo.
Crawciai'r bioden drahaus â'r big finiog
ar y llwyn drain, cwyn drallodus:
'Mawr yw dy gynnwrf, cân ffug a chwerw,
36 henwr, wrthyt ti dy hun.
Byddai'n well i ti, yr hen wr llwyd,
fod wrth y tân, myn Mair (gair doeth)
nag yma yng nghanol gwlith a glaw
40 yn y llwyn ffres mewn glaw oer.'
'Dydi, bioden, du yw dy big
(aderyn uffernol a ffyrnig iawn),
bydd ddistaw, gad fi'n llonydd,
44 er mwyn Duw, yma yn y pwyntmant.
Cariad mawr ar ferch dda a phur
sy'n achosi'r cynnwrf i mi yma.'
'Mae'n wastraff amser i ti, gwasanaethu pechod,
48 hen ddyn llwyd diurddas hanner call,
arwydd gwirion am waith serch,
barablu am ferch hardd.'
'Mae gennyt tithau (helbul ffals)
52 waith beichus a llafur sy'n fwy:
rwyt ti'n gorchuddio nyth fel llwyn eithin,
(trwchus fydd y cawell o fân frigau sych).
Mae gennyt blu du a gwyn, hollol hyfryd
56 (wyneb diffaith, a phen brân).
Rwyt ti'n gymysgliw, mae gennyt liw hardd
(mae gennyt drigfan hyll, mae gennyt lais cryg iawn),
a byddet yn dysgu pob iaith
60 wych ac estron, adain ddu amryliw.
Dydi, bioden, du yw dy ben,
helpa fi, er dy fod mor ffraeth,
a rho'r cyngor gorau
64 a wyddost i'm gwendid mawr.'
'Fardd gwanllyd, nid yw'r ferch hardd yn dy garu,
nid oes ond un cyngor i ti:
cân brudd iawn, dos yn feudwy -
68 och wr ffôl! - a phaid â charu
mwy.'
Myn fy ffydd, a Duw'n dyst,
os gwelaf byth nyth pioden,
na fydd ganddi hi oherwydd hyn
72 nac wy, yn wir, na chyw.