Nodiadau: 4 - Lluniau Crist a'r Apostolion

GDG 4; HGDG tt. 133–5

Myfyrdod yw'r cywydd hwn ar lun newydd a welodd Dafydd mewn rhyw sefydliad crefyddol, eglwys blwyf yn fwy na thebyg. Darlun ydoedd a baentiwyd ar banel o goed, yn dangos Crist a'r apostolion, chwech ar bob ochr iddo. Disgrifir Crist a'r deuddeg apostol gan eu henwi bob un yn ei dro, fel y gwneir gan Iolo Goch ar ddechrau ei gywydd i'r Deuddeg Apostol a'r Farn (GIG XXVII). Un gwahaniaeth amlwg yw mai Mathïas, a ddewiswyd yn apostol yn lle Jwdas, a enwir gan Iolo, yn hytrach na'r Apostol Paul. Cloir y cywydd drwy gyfleu'r math o ystyriaeth y buasai'r darlun yn ei ysgogi ymhlith y plwyfolion ar fywyd Crist, ei ddioddefaint a'i atgyfodiad, ac ar genhadaeth ei apostolion ar ei ran. Awgryma llau. 5–8 y gall mai'r Crist croeshoeliedig a baentiodd yr arlunydd (ceir Dwyfron noeth Duw fry o nef mewn un fersiwn, gw. 1–2n), er mai'r hyn oedd yn gyffredin yn y cyfnod hwn oedd dangos Ioan a'r Forwyn Fair yn unig bob ochr i'r groes, gw. Peter Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 167, a chymh. Ioan xix.25–6. Neu efallai fod symbolau o'r groes ac o'r Drindod (9–10) yn rhan o'r darlun.

Ymdrinnir â chefndir y cywydd gan Dewi Stephen Jones, 'Cywydd Dafydd ap Gwilym i "Luniau Crist a'r Apostolion" ', B xix (1962), 102–8. Gw. yn arbennig yr atgynhyrchiad o ddarlun o Grist a'i apostolion a baentiwyd ar banel mewn allor yng Nghatalonia.

Digwydd y cywydd mewn rhyw ddeugain o lawysgrifau. Ceir dau gopi cynnar, sef testun Pen 48 o ail hanner y bymthegfed ganrif a thestun Pen 57 a gofnodwyd tua diwedd y ganrif honno. Mae 5–10 yn eisiau yn y naill a 5–12 yn eisiau yn y llall, a gwelir cryn gyfatebiaeth rhwng y darlleniadau. Y tebyg yw fod copi Pen 48 yn cynrychioli ffurf gynharach (lai cyflawn) ar destun y Vetustus. Diogelwyd fersiwn y Vetustus yn H 26, a hefyd yn Pen 49 lle yr addasodd John Davies ei ffynhonnell drwy gymharu â CM 5. 9–10 yn unig sy'n eisiau yn y fersiwn hwn, ac er gwaethaf rhai amrywiadau yr un testun sylfaenol a welir mewn llawysgrifau megis M 146, BM 31, LlGC 560 a Ll 124 (mae'r ddau gwpled olaf yn eisiau yn BM 31 a 39–40 yn dilyn 13–14 yn LlGC 560). Ceir fersiwn gwahanol o'r cywydd yn BL 14979, a ffurf ar yr un fersiwn a welir yn CM 5 ac mewn llu o lawysgrifau eraill, gan gynnwys Pen 72, J 12 a BM 38. Y fersiwn hwn yn unig a ddiogelodd y cwpled 9–10, ond mae nifer o gwpledi'n eisiau, sef 5–6, 15–18 a 21–2, ac mae 3–4 yn dilyn 11–12. Rhydd y fersiwn hwn amryw o ddarlleniadau gwahanol sy'n tystio i drosglwyddiad llafar y cywydd, ond mae'n cyfateb mewn sawl man (yn enwedig yn nhestun cynharach BL 14979) i'r ddwy lawysgrif gynnar.

Mae'r holl gopïau'n cynnwys cwpledi ar ddiwedd y cywydd y mae'n deg tybio eu bod yn perthyn mewn gwirionedd i'r cywydd 'Credo' (153), a briodolir i Ddafydd ap Gwilym ynghyd â thri bardd arall. Ceir 4 cwpled ychwanegol yn Pen 48, Pen 57, H 26 a Ll 124; 2 yn Pen 49, M 146 a LlGC 560; 3 yn BM 31 (yn cynnwys un cwpled nas ceir yn y llawysgrifau eraill ac eithrio CM 125); 4 (mewn trefn wahanol) yn BL 14979; ac 1 yn CM 5 a'r copïau cysylltiedig. Fel y dengys yr ymdriniaeth â'r cywydd 'Credo', digwydd y cwpledi ychwanegol mewn testunau o'r cywydd hwnnw, ac yno y gweddant orau. Bu i'r ddau gywydd gylchredeg gyda'i gilydd – mae'r naill yn dilyn y llall yn Pen 48 ac ymddengys mai'r un oedd trefn y Vetustus – a'r tebyg yw bod y dryswch rhyngddynt wedi digwydd yn gynnar, efallai oherwydd y tebygrwydd rhwng y sangiad gair o gariad yn y cwpled clo a diweddglo'r cywydd arall. Sylwer bod 'Lluniau Crist' wedi ei briodoli i Ddafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd yn Ll 124, sef un o'r beirdd y priodolir iddo'r cywydd 'Credo'.

Cynghanedd: croes 14 ll. (26%), traws 15 ll. (28%), sain 20 ll. (37%), llusg 4 ll. (7%), digynghanedd 1 ll. (2%).

1–2.   Fersiwn y Vetustus Da y lluniodd Duw ... Ceir ffurf wahanol ar y cwpled yn fersiwn CM 5 a BL 14979: Da y lluniwyd, dull iawnef, / Dwyfron noeth Duw fry o nef (BL 14979 da i lliniodd mewn dall [sic] Iownef ...).

3. tabl    O'r Saesneg table neu'n uniongyrchol o'r Ffrangeg, gw. GPC 3403. Rhydd OED ar–lein yr ystyr 'a board or other flat surface on which a picture is painted; the picture itself'. I 1387 y perthyn yr enghraifft Saesneg gynharaf: þe baner of þe cros wiþ a crucifix i–peynt in a table [L. in tabula depicti]; cymh., o ddechrau'r 15g, A tabil, ful wele depeynte with an ymage of oure lorde crucifyed.

4. eilun   'Delw, ffurf'; ai lun neu i lun (ei lun) a rydd y rhan fwyaf o'r llsgrau. Pen 48 Ar lvn walch.

Gwawr   Yn yr ystyr 'arglwydd'. Cyfeiria'n aml at Dduw a Christ, cymh. 6.17, 64.

gloywon wŷdd   Cymh. Dewi Stephen Jones: 'Paratowyd y coed ymhellach, ar ôl eu caboli, drwy osod darnau o hen liain arnynt â glud gwan wedi ei wneud o grwyn geifr. Yna rhoi cot lefn o gresso–grosso, chwedl yr Eidalwyr, glud a phlastr Paris yn gymysg, ac wedyn ymhen tridiau, cot o gesso–sottile, cot ystwythach a llyfnach na'r gyntaf. Erbyn i'r tabl fod yn barod i'r paent yr oedd mor llyfn ag ifori.'

5. eurglos   Clos yn yr ystyr 'lle wedi ei amgáu', GPC 508, sef eglwys neu glawstr yma. Cymh. DGG LXXX.15–16 Pob cloch blygain damwain dig, / O glôs y gwyr eglwysig.

6.   Cymh. GIG XXVII.48 Y deuddeg, myn dioddef ('Y Deuddeg Apostol a'r Farn').

7. grasus yw   Disgrifiad o Grist, mae'n debyg, ond gallai'r sangiad gyfeirio at ei ddioddefaint ar y groes, cymh. 152.27 Pan welom drosom dy rasus—basiwn. Fersiwn CM 5 Siesus / Seisus iawn; BL 14979 grassvs Iewn [sic].

10. a'i ras   Er mai benywaidd yw'r Drindod fel arfer, fel y mae yn ll. 9, digwydd yn wrywaidd weithiau, e.e. GLGC 1.420 tri o unDuw yw'r Trindawd.

11. Iesu lwyd Iôn   Pen 48 a ddiogelodd y darlleniad hwn. Dichon i'r gynghanedd sain gadwynog (gyda'r gyfatebiaeth gytseiniol rhwng Iesu a Iôn) beri diwygio'r llinell yn ystod trosglwyddiad y cywydd. Y darlleniad mwyaf cyffredin, a geir yn fersiwn y Vetustus, yw Iesu lwyd lon. BL 14979 da llvniwyd ar dabl llwyd Ion. Troes yn gynghanedd groes o gyswllt yn fersiwn CM 5 dai lliniodd duw llonydd don; cymh. e.e. BM 38 da i lliniodd dad llonydd don.

15.   Llinell ddigynghanedd, sef yr hyn a geir yn fersiwn y Vetustus. Mae'r ystyr yn rhagori fymryn ar weddill y darlleniadau, a cheir cywyddau eraill lle nad oes ond un llinell heb ei chynganeddu, e.e. rhif 91. Er bod cynghanedd lusg i'w chael yn y copïau cynharaf, teg ystyried hynny fel ymgais i drwsio'r llinell (ac fe welir mewn mannau eraill nad yw'r testunau cynharaf yn ddibynadwy bob tro): Pen 57 duw ion glan yn ykanakwl; Pen 48 Duw ior glan yny kanawl; BM 31 Duw lan sy yn y kanxawl. GDG Duw Iôn glân sy'n y canawl. Fe'i trowyd yn gynghanedd groes yn LlGC 560 dvw kvn ydyw y kanawl. Mae'r cwpled yn eisiau yn fersiwn BL 14979 a CM 5.

18. iasiwyd   Pen 57 assiwyd; Pen 48 iaswd; BM 31 Iaswyd. GDG asiwyd, ond mae'r i gytseiniol yn cryfhau'r gynghanedd ac mae honno'n ffurf ddigon cyffredin, gw. GPC 2001. Y darlleniad mwyaf cyffredin yw roeswyd, e.e. H 26 – Pen 49, Ll 124 roswyd – sef llygriad o ddarlleniad annisgwyl, mae'n debyg. Cymh. LlGC 560 Rassiwyd. Ceir esboniad gan Dewi Stephen Jones, sy'n egluro y byddid yn ffurfio panel o'r fath drwy asio wrth ei gilydd â glud ddarnau o bren wedi eu tymheru, sef loywon wŷdd ll. 4.

19. hanner    Yn yr ystyr 'ochr', cymh. ll. 21 a gw. yr enghreifftiau a ddyfynnir yn GPC 1821, GDG t. 434.

20. deuan'    Cymh. 87.34 Y deuan', darogan da.

21. muner    Nid amhosibl maner, sef darlleniad Pen 57 a Ll 124, o'r Saesneg manner 'modd, gwedd', cymh. 165.5.

23. Pedr, da y gŵyr edrych   Enwir Pedr, yr amlycaf o ddisgyblion Crist, yn gyntaf gan Iolo Goch yntau, ac Ieuan yn ail, GIG XXVII.1–8. Cynigir esboniad posibl ar y sangiad gan Dewi Stephen Jones, sy'n dwyn sylw at 'yr amgylchiad a drodd y disgybl yn apostol ac a wnaeth arweinydd o'r gwadwr', Luc xxii.61–2 A'r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw–dost.

24. Ieuan wiw awen wych   Darlleniad Pen 57, Pen 48 a BL 14979. Rhoddai wiw amcan wych fersiwn y Vetustus gynghanedd sain yn hytrach na chroes. Rhwng y ddau ddarlleniad y mae'r fersiwn a gynrychiolir gan CM 5 wiw agen wych, cymh. Pen 72 wiw a gwen wych. Yn ôl Dewi Stephen Jones, gan gredu mai Ioan oedd awdur yr Efengyl a'r Datguddiad, 'Gwelodd bardd y cywydd y bardd o blith y disgyblion. Onid gan Ioan yr oedd yr awen? Onid ef a drodd athroniaeth noeth ac oer y Groegiaid am y Gair, y Logos, yn farddoniaeth ddihafal? Yn y dechreuad yr oedd y Gair, / A'r Gair oedd gyda Duw, / A Duw oedd y Gair'. Aralleirir yr adnod honno yn un o'r cwpledi crwydr a gysylltwyd â'r cywydd hwn, gw. 153.49–50. Portreedid Ioan yn gyffredin yn dal yr Efengyl yn i law.

25. Phylib oreuwib ras   Cyfeiriad, mae'n debyg at deithiau efengylu'r apostol. Efallai, fel yr awgryma Dewi Stephen Jones, fod yma atgof am hanes yr angel yn cymell Phylip i deithio o ddinas Samaria tua'r de er mwyn lledu'r Efengyl, ac yntau'n glynu wrth gerbyd ac yn dringo i mewn iddo, lle'r oedd Ethiopiad yn darllen y proffwyd Eseias, gw. Actau viii.26–40. Dichon mai dyna arwyddocâd gwyndroed yn y llinell nesaf, lle y gall gwyn olygu 'hardd' neu 'sanctaidd' yn ogystal. Cymh. Eseia lii.7 Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch ....

27. gwiwgu   Darlleniad Pen 48. Ceir ateg iddo yn fersiwn CM 5 gwiw a hylwydd. Fersiwn y Vetustus hoywgu. Nid amhosibl darlleniad Pen 57 eicieau, ag eigiau, 'heigiau o bysgod', yn gyfeiriad at alwedigaeth Iago fel pysgotwr. Ym mhumed bennod Efengyl Luc ceir hanes yr Iesu'n cymell Simon Pedr a'i gyd–bysgotwyr i fwrw eu rhwydi i'r dŵr: Luc v.9–10 ... braw a ddaethai arno ef, a'r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy; A'r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd ... A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.

29. lliw aur   Dewi Stephen Jones: 'Defnyddid cryn dipyn o aur fel un o'r lliwiau. Aur coeth wedi ei weithio'n ddalen denau o dan law'r eurych. Yn wir, cyn i Giotto (1266–1337) ddefnyddio glas, ag aur y paentid yr awyr i gyd bron yn ddieithriad yn y darluniau cynnar.'

30. cyfarwydd   Fersiwn y Vetustus cain hylwydd.

31. Pawl    Nid un o'r deuddeg apostol gwreiddiol. Fe'i dewiswyd yn apostol gan y Crist atgyfodedig pan gafodd dröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus, gw. Actau ix. 3–19. Fe'i geilw ei hun yn Rhufeiniaid xi.13 yn apostol y Cenhedloedd. Cymh. GIG XXVII.71 A Phawl ebostol y ffydd ('Y Deuddeg Apostol a'r Farn').

32.   Cymh. GIG XXVII.10 Yw Andras gyweithas goeth.

33–4. Martho– ... –Lamëus   Y ffurf fwy cyfarwydd Barthlomëus a geir yng nghywydd Iolo Goch i'r Deuddeg Apostol a'r Farn (GIG XXVII.18). Cadarnheir y ffurf hon gan y gynghanedd, ond mae'r trychiad wedi esgor ar gryn lygru yn y llsgrau. Pen 57 Marythav nid wnayth ymwrthod / Mefvss glaer lwyddianvs glod; Pen 48 Martha ni wnayth ymwrthod / Mevvs glayr weddvs i glod; fersiwn y Vetustus Barthol/Bartho, nid rhaid ym wrthod / Lameus/Lomeus glaer weddus glod. Yn y fersiwn a gynrychiolir gan CM 5 fe'i deellir fel dau enw gwahanol: mathew a bair ym wythwawd / barthlomevs weddvs wawd (J 12 Matholomefvs), ac felly hefyd yn Pen 49. Cymh. BL 14979 martha mae ym wrthawd / Barthlamefvs weddvs wawd. Awgryma Dewi Stephen Jones fod y trychiad, sy'n torri'r enw yn ddau hanner, yn gyfeiriad cyfrwys at ferthyrdod Bartholameus drwy ei flingo'n fyw. Yn narlun Michelangelo ar wal Capel y Sistene, dangosir ef yn dal y gyllell a'i blingodd yn ei law dde, ac yn ei law chwith ei groen ei hun ar ffurf dyn. Adroddir yr hanes yng nghywydd Iolo, GIG XXVII.19–22 Am gredu'n wir drwy hirboen / I Grist y tynnwyd ei groen, / A'r boen a droes, loes loywsyth, / Yn llawenydd beunydd byth. Yng ngoleuni hyn daw arwyddocâd y sangiad ni wnaeth ymwrthod yn glir.

35. Mathëus   Mathew yr Efengylydd, cymh. 152.36. Pen 48 a fersiwn y Vetustus a rydd y darlleniad hwn. Mathias yw'r ffurf yn Pen 57, ac yn Pen 49 a fersiwn CM 5 ceir Moethus lew Mathias lân. Cymerwyd lle Mathïas gan yr Apostol Paul yn y darlun a ddisgrifir gan Ddafydd. Enwir Mathew a Mathïas ynghyd gan Iolo Goch, GIG XXVII.45–6 Mathau, grym gweddïau gras, / Maith awen, a Mathias. Cymh. GLGC 14.79 Andras, Mathïas, Mathëus ...

36. Iago   Sant Iago'r Lleiaf. Cymh. darlleniad Pen 49 a fersiwn CM 5 Gwiw fuchedd Iago Fychan. Enwir y [d]dau Iago gyda'i gilydd gan Iolo Goch, GIG XXVII.26, ac felly hefyd yn BM 31 ar ddav iago ddiogan.

37. Sain Sud   Jwdas, sef brawd Iago'r Lleiaf, mae'n debyg, yn hytrach na Jwdas Iscariot. Gw. 8.4n ar Simon, Sud. Daw Sud o'r Saesneg Jude, gw. EEW 173.

38. llinynnaid    Dyma'r darlleniad gorau, a ddiogelwyd yn Pen 48. llinynnau a geir mewn nifer o'r copïau, gan gynnwys Pen 57, a fyddai'n llygriad naturiol wrth i gytsain olaf llinynnaid gael ei llyncu gan y gair teg ar lafar. Ceir (y) lluniau mewn llsgrau eraill, e.e. fersiwn CM 5 llyna yty llyniav teg.

40. lliw didwyll   Awgryma Dewi Stephen Jones mai paentiad mewn 'tempera' oedd hwn, a'r lliwiau wedi eu cymysgu â melynwy yn hytrach nag olew ac felly'n cadw eu gloywder gwreiddiol.

41. ystyr   3 un. ystyried, ond gellid ei deall yn ffurf orchmynnol fel y gwna Gwyn Thomas (2001, 7), 'Think well upon the wise, fair story'. Gorchmynnol yw'r enghreifftiau eraill gan Ddafydd, e.e. 72.3, 22, ond ymddengys hynny'n llai tebygol yng nghyd–destun y cywydd hwn. Pen 49 a fersiwn CM 5 ystyr dyn; BL 14979 ystyr dwys.

44. cain dyddyn   Darlleniad BL 14979 a fersiwn CM 5; tebyg mai llygriad ohono a welir yn Pen 48 kain dyddyd a Pen 57 kain dyvyn (mae tyfyn yn ffurf amrywiol ar tyddyn, GPC 3670–1). Fersiwn y Vetustus cain (d)deddfawl. Cymh. ll. 54 isod a 35.7–8 Tydi sydd ... / Tyddyn pob llysewyn pabl ('Mawl i'r Haf').

46.   Ceir llinell gwbl wahanol yn Pen 72 (sy'n perthyn i'r un grŵp â CM 5): trwy gvr y krist trigarog.

47. ni bu   Pen 57 nid overedd, gan gyfrif marw yn ddeusill. Pen 49 a fersiwn CM 5 nid oedd, cymh. GDG.

49. Duw Iesu   Cymh. 78.13 myn Duw Iesu. Pen 57 Affan gyvodess iessu, cymh. BL 14979 a fersiwn CM 5 A phan godes yr Iesu, ond mae hynny'n amharu ar gystrawen y frawddeg sy'n ymestyn dros bum cwpled olaf y cywydd.

51. nid rhaid rhus   Fersiwn CM 5 yn unig a rydd y darlleniad hwn – fe'i ceir fel darlleniad amrywiol yn Pen 49 – ond mae'n fwy priodol na llygaid llus y llsgrau eraill. Digwydd sangiad tebyg yn 22.5 nid rhaid gwadu. Cyfleu lliw llygaid neu aeliau merch a wna llus fel arfer yn y cywyddau, cymh. disgrifiad Sypyn Cyfeiliog o'i gariad fel perchen llygaid llus (GSCyf 3.33), a'r enghreifftiau eraill a ddyfynnir yn GPC 2230.

53. gair o gariad   Cymh. 22.23 Ni chair sôn gair o gariad. Fersiwn y Vetustus Mab Mair, â gair o gariad; Pen 49 a fersiwn CM 5 Mab Mair yw'r gair o gariad.

54. i oresgyn   I'w ynganu'n ddeusill, cymh. 68.50 I ymorol â gem eirian. Goresgyn yn yr ystyr 'meddiannu', cymh. GMD 6.18 Goresgyn nef,   er dioddef   i'r dioddau, a'r enghreifftiau eraill a ddyfynnir dan yr ystyr honno yn GPC 1474–5. Cymh. hefyd GIG XXVII.47–50 Weldyna hwynt, nawddbwynt nef, / Y deuddeg, myn dioddef, / A farnant, eurfant arfoll, / Arbed awr, ar y byd oll.