kowydd ir biogen
1 A min glaf er mwyn gloywferch
2 mewn llwyn yn prydy swyn serch
3 ar ddiwarnawd py[ ]rdawd pill
4 ddichwerw wybyr ddechre ebrill
5 ar eos ar ir wiail
6 ar vwyalch dec ar vwlch dail
9 kynn y glaw yn kanyn glav
10 ar las banckr oyrlwys byngkav
11 ar ychedydd lonydd lais
12 kiw kyllwyd edyn ky kyllais
13 yn myned drwy lyddedydd lyr
14 a chowydd i eitrych awyr
15 or noethfaes ydlaes edling
16 yngwysg i gefn drefn i dring
17 a minav vardd Riain feinir
18 yn llawen Iawn yn y llwyn ir
21 gann ddigrifed gweled gwydd
22 gwaisc nwydd yn kael gwisc newydd
23 ac egin gwin a gwenith
24 ar ael glaw ar ol y gwlith
27 myn y nef i roedd hefyd
28 y bi ffela edyn or byd
29 yn adeiliad brad brydferth
30 ymhen krychedd perfedd perth
33 [83v] eddwedair bi gynni gwyn
34 yn drwynllem ar y draynllwyn
37 gwell yt myn mair air aren
38 gairllawr tan y gwr llwyd hen
39 nagymh nac ymhylith gwlith a glaw
40 dan yr irlwyn ar oerlaw
41 dydi bi dy yw du bic
42 yffernol edyn tra ffyrnic
43 daw ath son gad vin llonydd
44 er mwyn duw yma vn dydd
45 mawr serch y ddiweirferch dda
46 y bair ym y berw yma
47 oed yw iti gywein gwyd
48 llwyd anfach gleyrch lledynfyd
49 symyl arwydd yw swydd serch
50 ymlyferydd am loywferch
51 maey tithav gav gymwy
52 swydd vlin nav lafyr sydd vwy
53 toi nyth megis twyn eithin
54 tew o vriwidd krywidd krin
31 nyth drain brydgalch balch borth
32 ai chymar yni chymorth
55 [84r] ath bly brithy ky kyfan
56 a ffayn o bryd a ffen bran
59 pob Iaith bybyr araith bell
60 a ddysgyd fraith i hasgell
61 tydi bi dy yw dy ben
62 kymorth vi kyn bych kymen
63 a gosod y kyngor gorav
64 a vetrych or morwnych mav
65 nychlyd vardd nith gar harddyn
66 nidoes yt gyngor ond vn
67 dwys Iawn vydr dos yn feydwy
68 ochwr myd ac na char mwy
69 minav awna gwilia geli
70 o gwelaf i nyth byth ir bi
71 na bo iddi hi o hynn
72 na gwy dioer nag y de[ ]yn
davydd ap gwilim ai kant