Pioden
1 A mi n glaf er mwyn gloywverch
2 mywn llwyn yn prydysswyn sserch
3 ar ddiwarnawd pybyr wawd pill
4 ddichwerw wybyr ddechray ebrill
5 ar eoes ar ayr wiail
6 ar vwyalch deg ar vylch dail
9 kynn u glaw yn kanyn glay
10 ar lais bangk irlais byngkay
11 a rychedydd lonydd lais
12 kykyllwyn edn kykyllais
13 yn myned drwy lydded lwyr
14 a chwydd ynaithia awyr
15 or noeth vaes ddiwdlais edling
16 yn wysc y gevn drevn u dring
17 minnay vardd riain vainir
18 yn llawen iawn mywn llwyn ir
21 gann ddigryved gweled gwydd
22 gwisc nwyf yn kael gwisc newydd
23 ag egin gwin a gwenith
24 ar ol u glaw ar ael u gwlith
27 mynn u nef y roedd hevyd
28 u bi ffela edn ny byd
29 yn ydailiad brad brydverth
30 ym hengrychydd pervedd perth
33 ssi ganai r bi geni gwyn
34 drwynllem vach ar vrig draynllwyn
37 gwell yt myn mair air aren
38 gair llawr tan ygwr llwyd hen
39 nag yna ymlith gwlith a glaw
40 dan irlwyn ar yr oerlaw
41 tydir bi dy yw dybig
42 yffernol edn tra ffyrnig
43 taw ath sson gad vin n llonydd
44 er mwyn dyw yma ny dydd
45 mawr sserch u ddiwair verch dda
46 u bair ym u berw yma
51 may tithay gay gymwy
52 sswydd vlin a llavar ssy vwy
Davydd ab gwilim {yr bioden}