â â â Y Deildy
1â â â  Heirdd feirdd, f'eurddyn, diledfeirw,
2â â â  Hawddamor, hoen goror geirw,
3â â â  I fun lwys a'm cynhwysai
4â â â  Mewn bedw a chyll, mentyll Mai,
5â â â  Llathr daerfalch, uwch llethr derfyn,
6â â â  Lle da i hoffi lliw dyn.
7â â â  Gwir ddodrefn o'r gaer ddidryf,
8â â â  Gwell yw ystafell a dyf.
9â â â  O daw meinwar, fy nghariad, 
10â â â  I dy dail a wnaeth Duw Dad,
11â â â  Dyhuddiant fydd y gwydd gwiw,
12â â â  Dihuddygl o dy heddiw.
13â â â  Nid gwaeth gorwedd dan gronglwyd;
14â â â  Nid gwaeth deiliadaeth Duw lwyd.
15â â â  Unair wyf fi â'm cyfoed.
16â â â  Yno y cawn yn y coed
17â â â  Clywed siarad gan adar,
18â â â  Clerwyr coed, claerwawr a'u câr:
19â â â  Cywyddau, gweau gwiail,
20â â â  Cywion, priodolion dail;
21â â â  Cenedl â dychwedl dichwerw,
22â â â  Cywion cerddorion caer dderw.
23â â â   Dewin fy nhy a'i dawnha, 
24â â â  Dwylo Mai a'i hadeila,
25â â â  A'i linyn yw'r gog lonydd
26â â â  A'i ysgwîr yw eos gwydd,
27â â â  A'i döydd yw hirddydd haf
28â â â  A'i ais yw goglais gwiwglaf,
29â â â  Ac allor serch yw'r gelli
30â â â  Yn gall, a'i fwyall wyf fi.
31â â â  Nachaf yn nechrau blwyddyn 
32â â â  Yn hwy y tyf no hyd dyn.
33â â â   Pell i'm bryd roddi gobrau 
34â â â  I wrach o hen gilfach gau.
35â â â  Ni cheisiaf, adroddaf drais,
36â â â  Wrth adail a wrthodais.