Y Deildy
Cyfarchion, feirdd urddasol a bywiog, [i'm] cariadferch olau ei
phryd,
un [a'i] gwedd [megis] tonnau môr [yn taro] ar ymyl [y
creigiau],
i lodes brydferth a [ddewisai] fy nghroesawu
4 mewn [llwyn o goed] bedw a chyll, [dan] orchudd [tyfiant] mis
Mai
y tu hwnt i ffin y llethr, un ddisglair a gwir urddasol [yw hi],
lle da i werthfawrogi gwedd y ferch.
Gwell yw'r ystafell sy'n tyfu
8 [a'i] chelfi cain yn y palas anghyfannedd.
Os daw fy nghariad, un luniaidd a gwylaidd,
i'r cartref o'r dail a wnaeth Duw Dad,
bydd y [llecyn] yn y coed prydferth yn [cynnig] mwyniant
[iddi],
12 [bydd yn] gartref glân a dihalog heddiw.
Nid gwaeth fydd gorwedd o dan gysgod y to [nag mewn
adeilad],
nid yw meddiant Duw fendigaid yn waeth [nag eiddo neb
arall].
Yr wyf fi a'r ferch sydd yn gyfoed â mi yn eneidiau
cytûn.
16 Fe gawn yno yn y coed
wrando ar ymddiddan yr adar,
prydyddion y goedwig, a bydd yr arglwyddes brydferth yn eu hoffi
yn fawr,
cywyddau yr adar mân,
20 llu cywir iawn [yng nghanol] y dail ac ym mhlethwaith y
canghennau;
teulu a chanddynt hanes swynol i'w adrodd,
adar mân a cherddorion y gaer [o goed] deri.
Bydd dewin yn hynodi fy nghartref,
24 bydd mis Mai a'i ddwylo yn ei blethu,
y gog gymwynasgar yw ei linyn mesur,
eos y goedwig yw y sgwâr,
diwrnodau hir yr haf yw'r töwr,
28 gwialennau ei furiau yw cynnwrf yr un hyfryd glaf [o
serch],
ac y mae'r clwstwr coed yn weddus iawn yn allor [ar gyfer] y
cariadon,
a myfi yw'r fwyall.
Wele ar ddechrau [pob] blwyddyn
32 bydd y tyfiant lawn cymaint â thaldra dyn.
Nid oes gennyf fwriad o gwbl i roddi tâl
i hen gilfach gaeedig a'r wrach [sy'n byw yno].
Ni cheisiaf [ddim] gan y cartref y cefnais arno,
36 tystiaf [i'r modd y cefais] fy ngham-drin [yno].