1 heirdd beirdd veyrddyn
diledveirw
2 hawdd ammor hoyn goror gwiw
3 J fvn lwys am kynhwysai
4 mewn bedw a chyll mentyll mai
5 llathr dayrvalch vwch llethyr dervyn
6 lle da i hoffi lliw dyn
7 gwir ddodrefn or gaer ddidryf
8 gwell yw ystavell a dyf
9 o daw meinwar fynghariad
10 J dy dail a wnaeth dvw dad
11 dyhvddiant vydd y gwydd gwyw
12 di hvddygl o dy heddyw
13 Nid gwaeth gorwedd dan gronglwyd
14 Nid gwaeth dyliadaeth dvw lwyd
15 vnair wyt vi am kyvoyd
16 yno y kawn yn y koyd
17 klowed siarad gan adar
18 klerwyr koyd klaer wawr ai kar
19 kywyddev gweav gwiail
20 kywion priodolion dail
21 kenedl a dychwedl di chwerw
22 kywion kerddorion kaer dderw
23 dewin hyf o down i haf
24 dwylo mai ai hydeilaf
25 ai linin ywr gog lonydd
26 ai sgwir yw eos gwydd
27 ai dywydd yw hirddydd haf
28 ai ais yw goglais gwiwglaf
29 ag allor serch ywr gelli
30 yn gall ai fwyall wyfi
31 Ni chaf y necherev blwyddyn
32 yn hwy y ty na hyd hyn
33 pell im bryd roddi gobrav
34 J wrach o hen gilfach gav
35 Ni cheisiaf adroddaf drais
36 wrth adail a wrthodais
dauid ap gwillim ai kant