{ko: ir adail yn y koyd}
1 Heirdd veirdd veurddyn diledveirw
2 hawdd ddamor hoen goror gwiw
3 i vvn lwys a'm cynwysai
4 mewn bedw a chyll mentyll Mai
5 llathr daervalch vwch llethr dervyn
6 lle da i hoffi lliw dyn
7 gwir ddodrefn or gaer ddidryf
8 gwell yw ystavell a dyf
9 o daw meinwar vynghariad
10 i duy dail a wnaeth Duw dad
11 dyhuddiant vydd y gwydd gwiw
12 dihuddigl o duy heddiw
13 nid gwaeth gorwedd dan gronglwyd
14 nid gwaeth deiladaeth Duw lwyd
15 vnair wyfi am cyfoed
16 yno i cawn yn y coed
17 clywed siarad gan adar
18 clerwyr coed claerwawr ai car
19 cywyddae gweae gwiail
20 cywion priodolion dail
21 cenedl a dychwedl dichwerw
22 cywion cerddorion caer dderw
23 dewin hyf o down y haf
24 dwylaw yw ai hadeilaf
25 ai linin yw'r gog lonydd
26 ai scwir yw eos y gwydd
27 ai dywydd yw hirddydd haf
28 ai ais yw goglais gwiwglaf
29 ag allor serch yw'r gelli
30 yn gall ai vwyall wyfi
31 ni chaf yn nechreu blwyddyn
32 yn hwy y tuy no hyd dyn
33 pell im bryd roddi gobrau
34 i wrach o hen gilvach gau
35 ni cheisiaf adroddaf drais
36 wrth adail a wrthodais
Dauid ap Gwilim