{I ferch ac i'r ty dail}
1 heirdd feirdd feurddyn di ledfeirw
2 hawddamor hoen goror geirw
3 i fun lwys a'm cynhwyssaui
4 mewn bedw a chyll mentill Mai
5 llathr daerfalch vwch llethr derfyn
6 lle da i hoffi lliw dyn
7 gwir ddodrefn or gaer ddidryf
8 gwell yw ystafell a dyf
9 o daw meinwar fyng hariad
10 i dy dail a wnaeth Duw Dad
11 dyhuddiant fydd y gwydd gwiw
12 di huddygl o dy heddiw
13 nid gwaith gorwedd dan gronglwyd
14 nid gwaeth deiladaeth Duw lwyd
15 vn air wyfi a'm cyfoed
16 yno y cawn yn y coed
17 Clywed siarad gan adar
18 Cler-wyr coed claer wawr a'u car
19 cywyddau gweau gwiail
20 cywion prydolion dail
21 cenedl a dychwedl dichwerw
22 cywion cerddorion caer dderw
23 Dewi'n hyf a'i dawnhâ
24 Dwylaw Mai ai hadeilia
25 Ai linyn yw'r gog lonydd
26 ai scwir yw eos y gwydd
27 ai dywydd yw hir ddydd haf
28 ai ais yw goglais gwiw glaf
29 ac allor serch yw'r gelli
30 yn gall ai fwyall wyfi
31 ni chaf yn nechreu blwyddyn
32 yn hwy y twf no hyd dyn
33 pell i'm bryd roddi gobrau
34 I wrach o hen gilfach gau
35 Ni cheisiaf adroddaf drais
36 wrth adail a wrthodais
Dafydd ap Gwilym