1 Heirdd feirdd fevrddyn diledriw
2 hawdd ddammor hoen goror gwiw
3 I fvn lwys am cynnhwysai
4 mewn bedw a chyll mentyll mai
5 llathr daerfalch vwch llethr derfyn
6 lle da i hoffi lliw dyn
7 Gwir ddodrefn or gaer ddidryf
8 Gwell yw ystafell a dyf
9 O daw meinwar fynghariad
10 I dy Dail a wnaeth Duw Dad
11 Dyhvddiant fydd y gwydd gwiw
12 Dihvddygl o dy heddiw
13 nid gwaith gorwedd dan gronglwyd
14 nid gwaeth 'deiliadaeth Duw lwyd
15 vnair wyfi am cyfoed
16 yno y cawn yn y coed
17 clywed siarad gan adar
18 clerwyr coed claerwawr ai car
19 cywyddav gweav gwiail
20 [118r] cywion priodolion dail
21 cenedl a dychwedl dichwerw
22 cywion cerddorion caer dderw
23 Dewin hy o devwn haf
24 Dwylo mai ai hadeilaf
25 A'i linyn yw'r gog lonydd
26 Ai ysgwir yw eos gwydd
27 Ai dywydd yw hirddydd haf
28 Ai ais yw goglais gwiwglaf
29 Ac allor serch yw'r gelli
30 yn gall ai fwyall wyf fi
31 ni chaf yn nechreu blwyddyn
32 yn hwy y ty na hyd dyn
33 Pell i'm bryd roddi gobrav
34 I wrach o hen gilfach gav
35 ni cheisiaf adroddaf drais
36 wrth adail a wrthodais
Da' ap Glm'