â â â Merch, Aderyn a Bedwen
1â â â Eiddun dewisaf serchawg,
2â â â O Dduw Rhi, a ddaw yrhawg,
3â â â O bai'n barawd ei wawd wedn,
4â â â Bun gywiw a bangawedn?
5â â â Ni bu, er dysgu disgwyl,
6â â â Gan serchogwas, golas gwyl,
7â â â Crefft mor ddigrif, er llif llid,
8â â â Ag arail merch a gerid,
9â â â A rhodio, heirio hiroed,
10â â â Cilfachau, cadeiriau coed,
11â â â Mal cynydd, chwareydd chwai,
12â â â Am lwdn gwyllt a ymlidiai
13â â â O le pwy gilydd o lid
14â â â O lwyn i lwyn, ail Enid,
15â â â Ac edn bach a geidw ynn bwyll
16â â â Yn ochr wybr yn ei chrybwyll.
17â â â Golau lais, galw ail Esyllt
18â â â A wnâi y gwiw latai gwyllt,
19â â â Aur ei ylf, ar wialen,
20â â â Ar ei gred, yn gweled gwen.
21â â â Digrif, beis gatai'r dagrau
22â â â A red, oedd glywed yn glau
23â â â Dyrain mawr ederyn Mai
24â â â Dan irfedw y dyn erfai,
25â â â Eirian farchog doniog dôn
26â â â Urddol aur ar ddail irion.
27â â â Hoyw erddigan a ganai
28â â â Awr by awr, poen fawr pan fai.
29â â â Nid âi ef, mygr waslef mwyn,
30â â â Arianllais edn, o'r unllwyn,
31â â â Meddylgar gerdd glaear glau,
32â â â Mwy nog ancr, meinion geincau.
33â â â Da y gweddai 'medwendai mwyn,
34â â â Or delai'r edn i'r deilwyn,
35â â â Corbedw diddos eu hosan,
36â â â Cyweithas gawell glas glân,
37â â â Teg fedwen to gyfoedwallt,
38â â â Twr diwael ar ael yr allt.
39â â â Tyfiad heb naddiad neddyf,
40â â â Ty, ar un piler y tyf.
41â â â Tusw gwyrdd hudolgyrdd deilgofl,
42â â â Tesgyll yn sefyll ar sofl,
43â â â Tywyllban, mursogan Mai,
44â â â Tew irnen, rhad Duw arnai.
45â â â Crefft ddigrif oedd, myn y crair,
46â â â Cusanu dyn cysonair,
47â â â Ac edrych gwedy'n gwiwdraul
48â â â Rhôm ny hun, rhwymynnau haul,
49â â â Trwy fantell fy niellwraig,
50â â â Trumiau, ceiniogau cynhaig,
51â â â A lleddfu agwedd heddiw,
52â â â Llygad glas, llwygedig liw,
53â â â Oroen gem eirian gymwyll,
54â â â Ar y dyn a oryw dwyll.