Merch, Aderyn a Bedwen | |
Eiddun dewisaf serchawg, | |
O Dduw Rhi, a ddaw yrhawg, | |
O bai'n barawd ei wawd wedn, | |
4 | Bun gywiw a bangawedn? |
Ni bu, er dysgu disgwyl, | |
Gan serchogwas, golas gŵyl, | |
Crefft mor ddigrif, er llif llid, | |
8 | Ag arail merch a gerid, |
A rhodio, heirio hiroed, | |
Cilfachau, cadeiriau coed, | |
Mal cynydd, chwareydd chwai, | |
12 | Am lwdn gwyllt a ymlidiai |
O le pwy gilydd o lid | |
O lwyn i lwyn, ail Enid, | |
Ac edn bach a geidw ynn bwyll | |
16 | Yn ochr wybr yn ei chrybwyll. |
Golau lais, galw ail Esyllt | |
A wnâi y gwiw latai gwyllt, | |
Aur ei ylf, ar wialen, | |
20 | Ar ei gred, yn gweled gwen. |
Digrif, beis gatai'r dagrau | |
A red, oedd glywed yn glau | |
Dyrain mawr ederyn Mai | |
24 | Dan irfedw y dyn erfai, |
Eirian farchog doniog dôn | |
Urddol aur ar ddail irion. | |
Hoyw erddigan a ganai | |
28 | Awr by awr, poen fawr pan fai. |
Nid âi ef, mygr waslef mwyn, | |
Arianllais edn, o'r unllwyn, | |
Meddylgar gerdd glaear glau, | |
32 | Mwy nog ancr, meinion geincau. |
Da y gweddai 'medwendai mwyn, | |
Or delai'r edn i'r deilwyn, | |
Corbedw diddos eu hosan, | |
36 | Cyweithas gawell glas glân, |
Teg fedwen to gyfoedwallt, | |
Tŵr diwael ar ael yr allt. | |
Tyfiad heb naddiad neddyf, | |
40 | Tŷ, ar un piler y tyf. |
Tusw gwyrdd hudolgyrdd deilgofl, | |
Tesgyll yn sefyll ar sofl, | |
Tywyllban, mursogan Mai, | |
44 | Tew irnen, rhad Duw arnai. |
Crefft ddigrif oedd, myn y crair, | |
Cusanu dyn cysonair, | |
Ac edrych gwedy'n gwiwdraul | |
48 | Rhôm ny hun, rhwymynnau haul, |
Trwy fantell fy niellwraig, | |
Trumiau, ceiniogau cynhaig, | |
A lleddfu agwedd heddiw, | |
52 | Llygad glas, llwygedig liw, |
Oroen gem eirian gymwyll, | |
Ar y dyn a oryw dwyll. | |