| Merch, Aderyn a Bedwen | |
| Eiddun dewisaf serchawg, | |
| O Dduw Rhi, a ddaw yrhawg, | |
| O bai'n barawd ei wawd wedn, | |
| 4 | Bun gywiw a bangawedn? |
| Ni bu, er dysgu disgwyl, | |
| Gan serchogwas, golas gŵyl, | |
| Crefft mor ddigrif, er llif llid, | |
| 8 | Ag arail merch a gerid, |
| A rhodio, heirio hiroed, | |
| Cilfachau, cadeiriau coed, | |
| Mal cynydd, chwareydd chwai, | |
| 12 | Am lwdn gwyllt a ymlidiai |
| O le pwy gilydd o lid | |
| O lwyn i lwyn, ail Enid, | |
| Ac edn bach a geidw ynn bwyll | |
| 16 | Yn ochr wybr yn ei chrybwyll. |
| Golau lais, galw ail Esyllt | |
| A wnâi y gwiw latai gwyllt, | |
| Aur ei ylf, ar wialen, | |
| 20 | Ar ei gred, yn gweled gwen. |
| Digrif, beis gatai'r dagrau | |
| A red, oedd glywed yn glau | |
| Dyrain mawr ederyn Mai | |
| 24 | Dan irfedw y dyn erfai, |
| Eirian farchog doniog dôn | |
| Urddol aur ar ddail irion. | |
| Hoyw erddigan a ganai | |
| 28 | Awr by awr, poen fawr pan fai. |
| Nid âi ef, mygr waslef mwyn, | |
| Arianllais edn, o'r unllwyn, | |
| Meddylgar gerdd glaear glau, | |
| 32 | Mwy nog ancr, meinion geincau. |
| Da y gweddai 'medwendai mwyn, | |
| Or delai'r edn i'r deilwyn, | |
| Corbedw diddos eu hosan, | |
| 36 | Cyweithas gawell glas glân, |
| Teg fedwen to gyfoedwallt, | |
| Tŵr diwael ar ael yr allt. | |
| Tyfiad heb naddiad neddyf, | |
| 40 | Tŷ, ar un piler y tyf. |
| Tusw gwyrdd hudolgyrdd deilgofl, | |
| Tesgyll yn sefyll ar sofl, | |
| Tywyllban, mursogan Mai, | |
| 44 | Tew irnen, rhad Duw arnai. |
| Crefft ddigrif oedd, myn y crair, | |
| Cusanu dyn cysonair, | |
| Ac edrych gwedy'n gwiwdraul | |
| 48 | Rhôm ny hun, rhwymynnau haul, |
| Trwy fantell fy niellwraig, | |
| Trumiau, ceiniogau cynhaig, | |
| A lleddfu agwedd heddiw, | |
| 52 | Llygad glas, llwygedig liw, |
| Oroen gem eirian gymwyll, | |
| Ar y dyn a oryw dwyll. | |