| Merch, Aderyn a Bedwen | |
| Dymuniad gwychaf carwr, | |
| o Dduw Frenin, a ddaw cyn hir | |
| (os yw ei ganu mawl cadarn yn barod) | |
| 4 | ferch ragorol ac aderyn parablus? |
| Ni fu (er dysgu gwylio) | |
| gan was cariadus, gwelw a gwylaidd, | |
| grefft mor hyfryd (er llif o nwyd) | |
| 8 | â gwarchod merch a gerid |
| a rhodio (treulio cyfnod maith) | |
| cilfachau [a] chlystyrau coed | |
| fel heliwr, chwaraewr bywiog, | |
| 12 | am garw gwyllt a ymlidiai |
| o un lle i'r llall oherwydd nwyd, | |
| o lwyn i lwyn (ail Enid [yw hi]), | |
| ac aderyn bach a geidw bwyll inni | |
| 16 | ar ochr [yr] awyr yn ei chlodfori. |
| [Â] llais clir, galw ail Esyllt | |
| a wnâi y llatai gwiw a gwyllt, | |
| euraid ei big, ar wialen, | |
| 20 | ar ei gred, yn gweld [y] ferch. |
| Hyfryd (pe bai'r dagrau sy'n rhedeg yn ei ganiatáu) | |
| fyddai clywed yn uchel | |
| orfoledd mawr aderyn Mai | |
| 24 | dan fedw ir y ferch wych, |
| marchog disglair â thôn ddawnus, | |
| euraid ar ddail ir. | |
| Harmoni bywiog a ganai | |
| 28 | o awr i awr, poen fawr [oedd] pan fyddai [wrthi]. |
| Nid âi ef, goslef hardd mwyn, | |
| aderyn â llais arian, o'r un llwyn | |
| (cerdd feddylgar glir uchel) | |
| 32 | mwy na meudwy (canghennau main). |
| Yn dda y gweddai, mewn tai mwyn o fedw, | |
| pe delai'r aderyn i'r llwyn o ddail, | |
| coed bedw bach clyd eu hosan, | |
| 36 | cawell tirion, glas a glân, |
| bedwen deg [â] tho o wallt o'r un oed, | |
| tŵr gwych ar ael yr allt. | |
| Tyfiad heb naddiad bwyall, | |
| 40 | tŷ, ar un piler y tyf. |
| Tusw gwyrdd o gasgliadau hudol o ddail sy'n cofleidio, | |
| sypiau yn sefyll ar sofl, | |
| tywyll ei ffwr, coegyn Mai, | |
| 44 | nen ir drwchus, bendith Duw arni. |
| Crefft hyfryd oedd, myn y crair, | |
| gusanu merch gyson ei gair, | |
| ac edrych wedi inni dreulio amser hyfryd | |
| 48 | rhyngom ein hunain (rhwymynnau haul) |
| drwy fantell fy ngwraig wych, | |
| [ar] fryniau, ceiniogau nwydus, | |
| a phlygu corff | |
| 52 | (llygad glas heddiw, lliw gwan, |
| prydferthwch gem o foliant disglair) | |
| dros y ferch a wnaeth dwyll. | |