Aralleiriad: Paraphrase: 38 - Merch, Aderyn a Bedwen

Merch, Aderyn a Bedwen

Dymuniad gwychaf carwr,
o Dduw Frenin, a ddaw cyn hir
(os yw ei ganu mawl cadarn yn barod)
4ferch ragorol ac aderyn parablus?
Ni fu (er dysgu gwylio)
gan was cariadus, gwelw a gwylaidd,
grefft mor hyfryd (er llif o nwyd)
8â gwarchod merch a gerid
a rhodio (treulio cyfnod maith)
cilfachau [a] chlystyrau coed
fel heliwr, chwaraewr bywiog,
12am garw gwyllt a ymlidiai
o un lle i'r llall oherwydd nwyd,
o lwyn i lwyn (ail Enid [yw hi]),
ac aderyn bach a geidw bwyll inni
16ar ochr [yr] awyr yn ei chlodfori.

[Â] llais clir, galw ail Esyllt
a wnâi y llatai gwiw a gwyllt,
euraid ei big, ar wialen,
20ar ei gred, yn gweld [y] ferch.
Hyfryd (pe bai'r dagrau sy'n rhedeg yn ei ganiatáu)
fyddai clywed yn uchel
orfoledd mawr aderyn Mai
24dan fedw ir y ferch wych,
marchog disglair â thôn ddawnus,
euraid ar ddail ir.
Harmoni bywiog a ganai
28o awr i awr, poen fawr [oedd] pan fyddai [wrthi].
Nid âi ef, goslef hardd mwyn,
aderyn â llais arian, o'r un llwyn
(cerdd feddylgar glir uchel)
32mwy na meudwy (canghennau main).

Yn dda y gweddai, mewn tai mwyn o fedw,
pe delai'r aderyn i'r llwyn o ddail,
coed bedw bach clyd eu hosan,
36cawell tirion, glas a glân,
bedwen deg [â] tho o wallt o'r un oed,
tŵr gwych ar ael yr allt.
Tyfiad heb naddiad bwyall,
40tŷ, ar un piler y tyf.
Tusw gwyrdd o gasgliadau hudol o ddail sy'n cofleidio,
sypiau yn sefyll ar sofl,
tywyll ei ffwr, coegyn Mai,
44nen ir drwchus, bendith Duw arni.

Crefft hyfryd oedd, myn y crair,
gusanu merch gyson ei gair,
ac edrych wedi inni dreulio amser hyfryd
48rhyngom ein hunain (rhwymynnau haul)
drwy fantell fy ngwraig wych,
[ar] fryniau, ceiniogau nwydus,
a phlygu corff
52(llygad glas heddiw, lliw gwan,
prydferthwch gem o foliant disglair)
dros y ferch a wnaeth dwyll.