Nodiadau: 38 - Merch, Aderyn a Bedwen

GDG 120

Tri phrif wrthrych sydd i'r cywydd hwn, sef merch, aderyn a bedwen. Mae teitl G 3 yn enwi rhywogaeth yr aderyn ('I'r Aderyn Bron-fraith'), ond mae'n bosibl mai'r ceiliog mwyalch oedd ym meddwl Dafydd (gw. ll. 19n). Mae'r bardd yn agor y cywydd drwy gyflwyno ei ddymuniad i weld y ferch a'r aderyn ill dau yn ei gwmni. Dywed mai peth pleserus iawn yw cael gwarchod y ferch a chrwydro'r goedwig fel heliwr yn hela carw, tra bo'r aderyn yntau'n canmol y ferch ar gân. Disgrifia'r aderyn yn galw ar y ferch ac yn canu ei gân chwerw-felys o goeden fedw. Cawn wedyn ddisgrifad o'r fedwen honno, ac mae hi gyn hyfryted a thrawiadol â'r aderyn. Yn rhan olaf y gerdd y mae sylw'r bardd yn dychwelyd at y ferch mewn dull rhywiol iawn. Er hynny, ymddengys fod y cywydd yn dod i'w derfyn ar nodyn negyddol wrth iddo gyfeirio at 'dwyll' y gariadferch. Byddai'r cyhuddiad hwnnw yn gwbl nodweddiadol o gerddi serch Dafydd ap Gwilym, ond tybed ai twyllo ei gŵr ac nid y bardd y mae'r ferch hon?

Trafodir y gerdd hon yn gryno gan Helen Fulton yn Dafydd ap Gwilym and the European Context (Caerdydd, 1989), 158–9. Meddai, '[the poet] observes, in the form of dyfalu descriptions, a bird and a birch-tree which epitomize the beauty and freedom of the woods. More profoundly, the bird also symbolizes the quality of the poet's love, sweet and yet painful' (158). Dadleua Fulton hefyd fod y fedwen yn 'symbol of the poet himself, of solitary and enduring masculinity, and the combination of bird and tree thus represents the poet's desired union with his girl' (159).

Cynghanedd: croes 15 ll. (28%), traws 10 ll. (19%), seindraws 1 ll. (2%), sain 22 ll. (41%), llusg 4 ll. (7%), digynghanedd 1 ll. (2%).

Cadwyd y gerdd hon mewn un llawysgrif ar bymtheg. Gellir adnabod tair ffynhonnell gynnar, sef Llyfr Gwyn Hergest (amrywiadau yn Pen 49 a Wy 2), Llyfr Wiliam Mathew (copïau yn Pen 49, Ll 6 a thair o lawysgrifau Llywelyn Siôn) a'r Vetustus (copïau yn G 3, H 26 ac efallai yn Bl f 3 [gw. ll. 12n] ac amrywiadau yn Pen 49). Ymddengys mai'r Vetustus oedd ffynhonnell C 7 hefyd, er bod y testun wedi ei ail-wampio mewn mannau.

Mae'r golygiad presennol (a hefyd GDG) yn dilyn trefn LlWM. Gan nad oes copi cyflawn o LlGH ar gael, mae'n anodd bod yn gwbl sicr ynglŷn â threfn y fersiwn hwnnw. Er hynny, dylid nodi bod llau. 3–4, 17–18, 21–34, 39–40 a 47–8 (cyfanswm o 22 ll.) wedi eu copïo'n gyflawn o LlGH yn Wy 2. Yn Pen 49, nodir y llythyren b wrth lau. 27–8 ac a wrth lau. 29–30, sy'n awgrymu bod trefn y cwpledi hynny yn wahanol yn LlGH. Ond sylwer mai trefn LlWM sydd iddynt yn y copi o'r rhan hon o'r gerdd o LlGH yn Wy 2. Posibilrwydd arall yw mai nodi trefn y Vetustus a wna'r llythrennau hyn, ond os felly ni nodwyd yr holl amrywiadau yn nhrefn llinellau grŵp y Vetustus, sef: 1–16, 20, 19, 21–4, 29–30, 27–8, 37–40, 43–4, 35–6, 41–2, 45–6, 49–54. Gwelir bod llau. 27–8 a 29–30 wedi eu cyfnewid yma o'u cymharu â LlWM. Ond sylwer hefyd fod llau. 31–2 yn eisiau'n llwyr, er bod eu hangen er mwyn cwblhau'r ystyr.

1. Eiddun dewisaf serchawg   Dyma ddarlleniad GDG. Mae hon yn llinell ddigynghanedd, a gwelir ymgais i'w chynganeddu yn rhai o'r llawysgrifau. Un elfen sy'n gyffredin i'r holl gopïau yw fod yr ail air yn dechrau ag dd-, ac felly mae tystiolaeth gref o blaid darllen Eiddun ddewisaf serchawg 'Cariad dewisaf dymunol'. Fodd bynnag, nid yw'r ystyr honno yn foddhaol iawn. Nodir yn GPC 1189 y gall eiddun fod yn enw gwrywaidd neu'n ansoddair, ac ymddengys o'r enghreifftiau a nodir mai'r olaf ydyw gan amlaf. Gallai hynny esbonio pam y treiglir cytsain gyntaf dewisaf yn y llawysgrifau. Hefyd, nid amhosibl fod yr dd- yn ddewisaf yn ganlyniad i gamddiweddaru d- mewn hen orgraff. Gan hynny, a chan ei fod yn rhoi gwell ystyr, derbynnir darlleniad GDG yma.

2. Rhi   Mae'r copïau o LlGH a LlWM yn cytuno yn erbyn rhif grŵp y Vetustus.

3. o bai'n barawd   Mae'r copïau o LlGH a LlWM yn cytuno yn erbyn y darlleniad a awgrymir gan y copïau o'r Vetustus: a fai barawd.

ei wawd wedn   Mae'r copi o LlGH yn Wy 2 o blaid darlleniad y testun, a hefyd grŵp y Vetustus. Mae'r y a geir y copïau o LlWM (Ll 6 a Pen 49) yn amwys; gallai gynrychioli ei neu y. Felly mae'r darlleniad y wawd wedn (sef darlleniad GDG) hefyd yn bosibl. Ond mae tystiolaeth y llawysgrifau at ei gilydd yn ffafrio darlleniad y testun.

4. a bangawedn   Mae'r copïau o LlGH a'r Vetustus yn cytuno yn erbyn y darlleniad a awgrymir gan y copïau o LlWM: a'i bangawedn.

5. er dysgu disgwyl   Mae sawl dehongliad posibl yma. Gall er olygu 'er (gwaethaf)', 'yn gyfeniwd am', 'ers', neu 'er mwyn', gw. GPC 1227. Gall disgwyl olygu 'disgwyl', 'gwylio' neu 'chwilio', gw. GPC 1045.

7. er llif llid   Dyma ddarlleniad LlGH yn ôl amrywiadau Pen 49. Darlleniad copïau'r Vetustus yw g(a)er llif llid, ac mae copïau LlWM o blaid o'm llif llid (sef darlleniad GDG). Ar er, gw. ll. 5n uchod.

8. arail merch   Derbyniwyd yma ddarlleniad grŵp y Vetustus yn erbyn aros bun LlGH a LlWM ar sail egwyddor y darlleniad anhawsaf. Ystyr arferol arail yw 'gwylio, gwarchod', er y gall hefyd olygu 'llochesu, meithrin, diwyllio' a cheir enghreifftiau o'r ystyr 'cynllwyn, hela, erlid' o'r 15g., gw. GPC 190. Am enghreifftiau eraill o arail (yn yr ystyr 'gwylio, gwarchod' mae'n debyg), gw. 34.42, 40.5 a 55.55.

12. llwdn   Fe'i cyfieithiwyd yn 'young animal' ac 'young beast' gan Thomas (2001, 233) a Loomis (1982, 225). Ond nid yw llwdn o anghenraid yn golygu anifail ifanc, cf. Dinewyn lwdn deunawosgl (GRhGE 5.13) lle y mae'n cyfeirio at hydd yn ei lawn dwf.

gwyllt   Ymddengys fod y gair hwn wedi ei golli o'r Vetustus, er ei fod i'w gael yn Bl f 3. Tybed felly a wyddai copïydd y llawysgrif honno am ffynhonnell arall?

13. pwy gilydd   Ceir amrwyiaeth o ffurfiau yn y llawysgrifau: Pen 49 a Llywelyn Siôn (o LlWM) pwy gilydd, Ll 6 (o LlWM) pa gilidd, G 3 a H 26 (o'r Vetustus) bwygilydd, Bl f 3 (o'r Vetustus) bwy gilydd, C 7 bigilidd. Ar pwy gilydd, gw. GMW 97 a GPC 2948 d.g. pwy3, bwy2, py3, by3.

14. Enid   Merch Niwl Iarll, gwraig Geraint fab Erbin a'r 'uorwyn gloduoraf', gw. Robert L. Thomson (gol.), Ystorya Gereint uab Erbin (Dublin, 1997), 19 (ll. 546). Gw. hefyd TYP3 lxvii a 349–50.

  Cynghanedd seindraws.

15. ynn bwyll   Mae yn bwyll hefyd yn ddarlleniad posibl. Mae sawl ystyr yn bosibl i pwyll, gan gynnwys 'amynedd' a 'synnwyr', gw. GPC 2948.

16. wybr   Mae'r ystyron 'awyr' a 'cwmwl' yn bosibl yma, gw. GPC 3739.

crybwyll   Ceir nifer o ystyron i'r berfenw hwn: 'dwyn i gof neu sylw trwy enwi (rhywun neu rywbeth), sôn am, siarad am, adrodd am, cyfeirio at; awgrymu; clodfori, enwogi, mawrygu enw', gw. GPC 618.

17. Esyllt   Cariad Trystan, gw. TYP3 350–2.

19. aur ei ylf   Y darlleniad a awgrymir gan LlWM yw aur a wŷl/ŵyl (ni cheir amrywiadau o LlGH). Ond mae darlleniad y copïau o'r Vetustus yn rhagori o ran ystyr, ac efallai i'r gynghanedd drychben / f led-lafarog beri i'r testun gael ei newid. O ddeall yr ymadrodd hwn yn llythrennol ('aur ei big'), mae'n rhaid mai'r ceiliog mwyalch yw'r aderyn dan sylw, gan fod gan hwnnw big o liw euraidd trawiadol. Ond gellid hefyd ei ddeall mewn ffordd drosiadol: 'euraidd ei gân'. Cf. 21.7 Euraid ylf ar we dalfainc a'r nodyn ar y ll. honno.

ar wialen   Mae nifer o'r llawysgrifau o blaid ar ei/y wialen, ond rhydd hynny linell ry hir, onid yngenir wialen yn ddeusill.

21. beis gatai'r dagrau   Mae tystiolaeth Wy 2 (o LlGH) a Pen 49 (o LlWM) yn ffafrio'r ffurf beis, er y gellid dilyn Ll 6 (bes) neu grŵp y Vetustus (pe). Cyfuno'r darlleniadau hyn a wneir yn GDG (peis). Ar pei, bei (yn yr ystyr 'os') o flaen berf yn yr amser amherffaith dibynnol, gw. GMW 110 a 243, ac ar ddefnyddio'r rhagenw mewnol 's gyda pei, bei, gw. ib. 55. Deellir gatai yn ffurf 3 un.amhrff.dib. y ferf gadu, gad(a)el.

25–6. marchog... / Urddol   Gan y gallai marchog olygu 'rider, horseman', fe'i defnyddid gyda'r ansoddair urddol i gyfleu'r S. 'knight'. Ar marchog urddol, gw. GPC 2357 d.g. marchog1.

28. awr by awr   Ar yr ymadrodd hwn ('o awr i awr, bob amser, ar unrhyw amser'), gw. GWM 97 a GPC 2948 d.g. pwy 3, bwy 2, py3, by3.

poen fawr pan fai   Mae darllenaid grŵp y Vetustus (boen fawr ban fai) hefyd yn bosibl.

  Cynghanedd sain deirodl.

29. mygr waslef   Darlleniad GDG yw mygrwas lef, ond mae Wy 2 (o LlGH) a Pen 49 a Llywelyn Siôn (o LlWM) o blaid darlleniad y testun. Ar gwaslef, ffurf amrywiol ar goslef, gw. 158.40n a GPC 1511.

32. ceincau   Mae'r copïau o LlGH a LlWM yn cytuno ar y ffurf heb yr i gytsain. Ni cheir y llinell hon gan grŵp y Vetustus.

  Un n yn ateb dwy.

33. da y gweddai   Cynhwyswyd y geiryn a welir yn Ll 6 a chan Lywelyn Siôn (o LlWM), cf. 11.1n. Rhaid cywasgu er mwyn hyd y llinell. Ni cheir y llinell hon gan grŵp y Vetustus.

34. or delai   Ar or (y cysylltair o 'os' + y geiryn rhy), gw. GMW 166–8 a 241. Fe'i defnyddir yma â ffurf 3 un.amhrff.dib. y ferf dyfod, gw. GMW 135.

35. corbedw   Dyma ffurf LlWM, ond mae grŵp y Vetustus o blaid corfedw. Ni nodir amrywiadau o LlGH. Ond sylwer mai corbedw a geir yn y copïau o LlGH yn achos 89.15n, o'i gymharu â corfedw y Vetustus a'r llawysgrifau gogleddol eraill. Y ffurf corbedw a geir gan Lywelyn ab y Moel (GSCyf 13.22), lle y'i profir gan y gynghanedd, a chan Ruffudd ab Adda, gw. BBBGDd 95 (45.50). Gw. hefyd GPC 558 d.g. corfedw, corbedw. Mae'n debyg mai corbedw yw'r darlleniad gorau yn achos pob enghraifft o corfedw a nodir yno.

hosan   Yma'n drosiadol am risgl y goeden, gw. GPC 1899.

41. hudolgyrdd   Ceir dewis yma rhwng darlleniad tebygol LlWM bydawlgyrdd (cf. Ll 6 bedw gyrdd), a darlleniad grŵp y Vetustus hudolgyrdd. Ni nodir amrywiadau o LlGH. Dilynwyd grŵp y Vetustus am ei fod yn rhoi gwell ystyr. Cymerir bod hudolgyrdd yn gyfuniad o hudol a cyrdd, ffurf luosog cordd 'llwyth, teulu; torf, mintai'. Ond gall yr olaf hefyd fod yn lluosog cerdd, gw. GPC 557 a 465 a cf. 13.25n. Erys un posibilrwyd arall, sef deall bydolgyrdd yn ffurf dreigledig ar pydolgyrdd. Ni cheir enghraifft o pydol yn GPC, er y gallai fod yn ansoddair seiliedig ar pyd 'perygl, enbydrwydd, ... cudd, magl', gw. GPC 2959 d.g. pyd1 a cf. 123.23 a GDG 127.27.

42. tesgyll   Ffurf luosog tasgell 'sypyn, tusw bach'. Gall y ffurf luosog hefyd olygu 'tywysennau', gw. GPC 3454.

43. mursogan   Hon yw'r unig enghraifft yn GPC 2505, sy'n cynnig yn betrus yr ystyr '?coegyn', gan awgrymu cysylltiad â mursen.

44. arnai   Ar y ffurf Gymraeg Canol arnai 'arni', gw. GMW 58.

46. dyn   Neu gellid derbyn darlleniad y copïau o LlWM yn Pen 49 ac yn llaw Llywelyn Siôn a darllen 'nyn (cf. Ll 6 dyn).

47. gwiwdraul   Nodir yr enghraifft hon a'r un a geir yn 111.57 yn GPC 1673 lle y rhoir yr ystyron 'traul haelionus, haelioni gwych, haelwych, haelfrydig'. Yr aralleiriad yn 111.57 yw 'sy'n gwario'n deilwng'. Yma, efallai mai 'difyrru amser' yw'r ystyr orau i traul (gw. GPC 3590 d.g. treuliaf, treulio), ac mae'n bosibl iawn fod yma islais rhywiol.

48. Rhôm ny hun, rhwymynnau haul   Mae'r copïau o LlWM yn awgrymu'r darlleniad Rhôm yny hun, rhwymau haul. Nid cheir y llinell hon gan grŵp y Vetustus. Yn Wy 2 (o LlGH) ceir Rom ny hun rhwymynnau haul ac mae amrywiadau Pen 49 o blaid yr un darlleniad. Dyma'r darlleniad gorau heb amheuaeth. Ar rhôm 'rhyngom', gw. GMW 59, ac ar ny hun 'ein hunain', gw. GPC 2602 d.g. ny1, nu2, GMW 89 a WG 275 (lle y dyfynnir yr ymadrodd yrygthunt e hun 'between themselves'). Nid yw'r llawysgrifau o blaid darlleniad GDG (Rhôm ein hun...).

49. trwy   Gellid hefyd ddilyn grŵp y Vetustus a darllen d/tan.

50. Trumiau, ceiniogau cynhaig   Sef bronnau'r ferch (trumiau) a'i thethi (ceiniogau). Ystyr wreiddiol cynhaig yw 'yn gofyn gwryw (am ast)', gw. GPC 785.

51. a lleddfu agwedd   Darlleniad Pen 49 (o LlWM) yw a lleddfv vagwedd, a thebyg yw darlleniad Ll 6: aleddfu vagwedd. Mae darlleniad Wy 2 (a lledun a llyfn agwedd) yn awgrymu mai darlleniad LlGH oedd a lleduu agwed, sydd, fel grŵp y Vetustus, o blaid darlleniad y testun. Mae ystod o ystyron yn bosibl i lleddfu, gan gynnwys 'lliniaru, dofi' a 'gwyro, gwyrgamu', gw. GPC 2140. Felly hefyd agwedd, a allai olygu yng nghyfnod Dafydd 'modd, ffordd, delw; cyflwr, ansawdd, sefyllfa' neu 'ymddangosiad, delw, ffurf, gwedd', gw. GPC2 117. Awgrymir felly fod lleddfu agwedd i'w gymryd gydag ar y dyn (ll. 44) a bod i'r ymadrodd cyfan yr ystyr 'plygu corff dros y ferch'. Ond mae sawl dehongliad arall yn bosibl ar sail yr ystyron uchod.

52. llwygedig   Hon yw'r unig enghraifft yn GPC 2244, sy'n cynnig yn betrus yr ystyr '?gwan, gwelw'. Cf. y ferf llwygaf, llwygo 'diffygio, blino, methu...' (ib.).