Bl f 3, 25–v26v   
    Cowydd ir Aderyn bronfraith
 
1    Eiddun ddewisaw serchawg
2    o Dduw rhif a ddaw y rhawg
3    A fai barawd i wawd wedn
4    bun gywiw a bangaw edn
5    Ni bu er dysgu disgŵyl
6    gan serchog was golas gwyl
7    Crefft mor ddigrif ger llif llid
8    ac arail merch a gerid
9    A rhodio hirio hiroed
10    cilfachau cadeiriau coed
11    Mal cynydd chwareydd chwai
12    am lwdn gwyllt a 'mlidiai
13    O le bwy gilydd o lid
14    [26r] O lwyn i lwyn ail enid
15    Ac edn bach a geidw yn bwyll
16    yn ochr wybr yn ei chrybwyll
20    Ar ei gred yn gweled gwen
19    aur ei Ylf ar wialen
21    Digrif pe gatai'r dagrau
22    a red oedd glywed yn glau
23    Dyrain mawr aderyn Mai
24    dan îr fedw y dyn erfai
29    Nid a ef mygr leislef mwyn
30    arianllys edn or unllwyn
27    Hoyw Orddigan a ganai
28    awr bob ar boenfawr ban ai fai
37    Teg fedwen tw gyfoedwallt
38    twr diwael ar ael yr allt
39    Tyfiad heb naddiad neddyf
40    tŷ ar un piler y tyf
43    Tywyll bann mursogan Mai
44    tew i'r nenn rhad Duw arnai
35    Corfedw diddos ei hossan
36    cyweithas gawell glas glan
41    [26v] Tusw gwyrdd hudol gyrdd deilgofl
42    tesgyll yn sefyll ar sofl
45    Crefft ddigrif oedd myn y Crair
46    cusanu dyn cysonair
49    Tan fantell fy niellwraig
50    trumiau ceinhiogau cynhaig
51    A lleddfu agwedd heddiw
52    llygad glas llwygedig liw
53    Oroen gern eirian gymwyll
54    ar y dyn a oryw dywll.
 
    Dafydd ap Gwilim