Offeren y Llwyn
Mewn lle braf y bûm heddiw
dan fentyll y coed cyll gwyrdd da,
ar ddechrau'r dydd yn gwrando
4 ar y ceiliog bronfraith medrus
yn canu englyn campus,
seremonïau a darlleniadau disglair.
Teithiwr o bell, fel Pwyll o ran ei natur,
8 pell y teithiai'r negesydd serch llwyd.
Yma y daeth o Swydd Gaer deg
oherwydd i'm cariad hardd ofyn iddo,
un huawdl, hyd nes y ceir gwarant,
12 a'r fan yr â yw i flaen nant.
Amdano yr oedd gwisg offeiriad
o flodau canghennau tyner Mai,
a'i glogyn, fel y tybient,
16 o adenydd, mentyll gwyrdd, y gwynt.
Myn Duw mawr, nid oedd yno
ond aur pur yn gorchuddio'r allor.
Morfudd a oedd wedi anfon
20 cân fydryddol mab maeth Mai.
Fe glywn mewn iaith loyw
lafarganu hir heb fethu,
darllen i bobl y plwyf (nid rhodres herciog)
24 yr Efengyl heb fwmial.
Codi wedyn ar fryn o goed ynn
fara'r offeren o ddeilen dda,
ac eos hardd fain soniarus
28 o ymyl y llwyn ar ei phwys,
prydyddes y dyffryn, sy'n canu i lu o bobl
gloch aberth, chwiban hyglyw,
a chodi'r bara cysegredig
32 tua'r nefoedd uwch y berth,
ac addoliad i'n Harglwydd Dad
â chwpan cymun chwant a chariad.
Yr wyf yn fodlon ar y gerddoriaeth,
36 llwyn bedw o'r goedwig hyfryd a'i meithrinodd.