GDG 122, HGDG tt.55–7
Y profiad o glywed adar yn canu yn y goedwig ar fore o Fai sy'n sail i'r gerdd hon. Llatai yn dwyn neges serch oddi wrth Forfudd yw'r ceiliog bronfraith, ac fe'i delweddir fel offeiriad yn llafarganu'r offeren. Dyna fan cychwyn ar gyfer delwedd estynedig o offeren yn y llwyn, a blodau'r coed yn wisgoedd yr offeiriad, deilen yn fara'r cymun, ac eos yn glochyddes. Yn ymhlyg yn y ddelweddaeth y mae beirniadaeth ar waith yr offeiriad dynol yn mwmial a baglu dros y geiriau Lladin yn eglwys y plwyf. Ond y mae ergyd gableddus i'r ddelweddaeth hefyd, gan mai 'nwyf a chariad' sydd yng nghwpan y cymun.
Mae'r ddelwedd o'r adar fel offeiriaid yn ddigon cyffredin yn llenyddiaeth Ewrop yr Oesoedd Canol, ac mae'n bosibl bod y gerdd hon yn ddyledus i gerdd Ffrangeg o ran gyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg gan Jean de Condé, La Messe des oiseaux (gw. Jacques Ribard (gol.), La Messe des oiseaux et le Dit des Jacobins et des Fremeneurs (Geneva, 1970), APDG 76–7, a DGIA 233–5). Ond nid oes cyfatebiaeth fanwl rhwng y ddwy gerdd, ac mae'n debycach bod Dafydd wedi datblygu'r ddelwedd yn annibynnol ar unrhyw ddylanwad llenyddol penodol.
Cynghanedd: sain 17 ll. (47%), croes 6 ll.(17%), traws 5 ll. (14%), ac 8 ll. (22%).
Trafodir y gerdd gan R. Geraint Gruffydd 'Sylwadau ar Gywydd "Offeren y Llwyn" Dafydd ap Gwilym', YB x (1977), 181–9.
Ymhlith y 23 chopi llawysgrif, y mae pump yn tarddu'n uniongyrchol o'r Vetustus, ac fe ymddengys mai hwnnw oedd yr unig gynsail ar gyfer y gerdd hon (oni bai bod C 7 yn tarddu o gam gynharach yn yr un traddodiad). Mae'n debyg bod Bl e 1 yn gopi o H 26; sylwer ar y darlleniad arwyddocaol gwiw yn ll. 34 sy'n gyffredin i'r ddwy, enghraifft o sensoriaeth gan Thomas Wiliems; ond eto mae Bl e 1 yn ochri gyda llsgrau eraill yn erbyn H 26 yn ll. 8.
3. gwarando gwrando yw'r ffurf a geir yn yr holl lsgrau, sy'n gadael y ll. yn fyr (fel yn GDG 111.5, lle dangosir y diwygiad). Hon oedd ffurf wreiddiol y gair, ac roedd yn arferol mewn Cymraeg Canol, fel y dengys yr enghrau yn GPC. A hon yw'r ffurf a geir yn LlGH yn GDG 79.42, felly mae digon o gyfiawnhad dros ddiwygio yma.
5. ynglyn hon yw'r ffurf a geir ym mwyafrif y copïau sy'n tarddu o'r Vetustus, ac roedd yn ddigon cyffredin mewn Cymraeg Canol, yn enwedig yn nhestun hynaf Gramadegau'r Penceirddiaid yn Pen 20.
7. Pwyll Deallwyd hwn fel enw cyffredin yn GDG, ond dadleuodd R. Geraint Gruffydd fod yma gyfeiriad at Fabinogi Pwyll, lle defnyddir y gair pellennig am y teithwyr a gludai Rhiannon ar ei chefn (PKM 21). Lled-awgrymodd ddarllen Pellennig Pwyll un annwyd, er cydnabod nad oes cefnogaeth i'r darlleniad yn y llsgrau. Gan fod y darlleniad hwnnw'n cynnwys n berfeddgoll nid yw'n syndod nas ceir yn y llsgrau, yn enwedig o ystyried eu bod oll yn tarddu o'r un cynsail. Ceir ateg i'r awgrym mewn llinell gan Fadog Dwygraig, 'I bellenigwyr, Bwyll un agwedd' (GMD 1.24). Ceir y trawiad pwyll / pellennig eto yn 110.28, ac er mai'r enw cyffredin sydd yno sylwer bod cyfeiriad agored at y cymeriad chwedlonol yn y cwpled dilynol, A wyddant hwy pwy yw pwyll? (darllener Pwyll). O dderbyn y testun fel y saif mae'r defnydd o pwyll fel ansoddair yn annisgwyl, ond y mae llai o anhawster o'i ddeall fel enw priod, 'fel Pwyll o ran ei natur', gan gyfeirio efallai at daith Pwyll i Annwfn.
8. pell siwrneiai Mae darlleniad GDG, pell ei siwrnai, yn seiliedig ar Bl e 1 (a Ba (M) 17), pell i siwrnai. Ond siwrneiai a geid yn y Vetustus, er nad yw'n sicr a oedd y geiryn y o flaen y ferf (fel yn M 212 a Pen 49) neu beidio (fel yn H 26 a Ll 120). Rhaid ei hepgor er mwyn cael llinell seithsill.
9. swydd ... Gaer Tybiai Parry mai Sir Gaerfyrddin yw hon, ond roedd R. Geraint Gruffydd o'r farn mai at iarllaeth Caerlleon Gawr y cyfeirir (YB x, 183). Gan ei bod yn wybyddus bellach mai crog Caerfyrddin yw pwnc y gyfres englynion yn Llawysgrif Hendregadredd (rhif 1 yma), nid oes rheswm da dros gysylltu Dafydd â Chaerlleon. Cymerir felly mai Caerfyrddin sydd yma, er na wyddys pam y byddai Morfudd yn anfon llatai oddi yno.
11. geiriog Cynigiodd R. Geraint Gruffydd mai enw lle yw hwn, sef Ceirio(g) yng ngogledd Ceredigion, gyda'r treiglad meddal yn dynodi cyrchfan (YB x, 183). Ond gan fod y gair yn hollol ystyrlon fel ansoddair yn disgrifio'r aderyn, a chan fod cyrchfan yn y frawddeg eisoes, sef yma , ni dderbyniwyd ei awgrym.
C 7 yw'r unig lsgr o bwys sy'n cefnogi darlleniad GDG, heb un gair gwarant. Mae'r llawysgrif honno'n cynnwys nifer o ddarlleniadau unigryw, a mympwyol i bob golwg, ond eto rhaid ystyried y posibilrwydd y gallai fod yn diogelu darlleniadau dilys a gollwyd yn y Vetustus. Serch hynny, mae darlleniad mwyafrif y llsgrau yn hollol dderbyniol, gan gyfeirio, mae'n debyg, at ganiatâd i'r cariadon ddod at ei gilydd.
12. yn entyrch y darlleniad a geir yn yr holl lsgrau yma yw i nentyrch, ac yn GDG dehonglwyd hynny fel enw lle. Ceir yr enw lle Neintyrch gan Brydydd y Moch, CBT V, 20.31, ond ni lwyddwyd i adnabod hwnnw, a chynigiwyd mai ffurf luosog wneuthuredig ydyw o Nant Twrch. Gw. hefyd W. J. Gruffydd, 'Nodiadau ar Waith Dafydd ap Gwilym', B viii (1935–7), 306, lle dadleuir mai Nannerch yn sir y Fflint yw hwn. Awgrymwyd y diwygiad hwn gan R. G. Gruffydd yn YB x, 182. Gallai'r newid fod wedi'i achosi gan gamrannu geiriau yn y gynsail.
13. camsai y ffurf a geir yn yr holl lsgrau yw casmai. Awgrymodd R. G. Gruffydd y diwygiad hwn ar sail camse yn Culhwch ac Olwen (CO 487), gair benthyg o'r Lladin camisia, gwisg offeiriad wrth weinyddu'r offeren, sef y wenwisg a wisgid o dan y casul addurnedig, gw. YB x, 185–6.
14. ceinciau hwn yw darlleniad yr holl gopïau agos o'r Vetustus. Dilynodd Parry C 7 a llsgrau diweddarach wrth ddewis gangau.
15. dybygesynt hon yw'r ffurf a geir ym mwyafrif y llsgrau. Cymh. dygesynt GDG 144.3 etc, ac ynglyn uchod.
19–20. Dyma le y cwpled hwn ym mhob llsgr. Fe'i gosodwyd ar ôl 12 yn GDG, ond o wneud hynny cafwyd yr un odl dros ddau gwpled yn olynol.
21. Ceir n berfeddgoll yn ail hanner y ll. hon (neu m wreiddgoll ar y dechrau).
23. ddarllain ceir y ffurf dreigledig ym mhob copi.
25. ynn Deallir hyn fel ffurf luosog onn, gan ddisgrifio'r bryn, ond sylwer bod aralleiriad R. Geraint Gruffydd yn HGDG yn ei gymryd fel yr arddodiad, 'er ein mwyn'. Yr anhawster gyda'r dehongliad hwnnw yw bod Dafydd yno ar ei ben ei hun.
26. deilien dyma'r ffurf a geir ymhob copi, ac mae'n ddigon cyffredin mewn CC, fel y gwelir o'r enghrau yn GPC. Efallai fod lle i adfer y ffurf hon mewn esiamplau eraill o'r gair.
30. clau a chwiban dyma ddarlleniad copïau'r Vetustus. Dim ond llsgrau diweddar sy'n cefnogi darlleniad GDG, clau ei chwiban. Yr arddodiad a = o yw hwn (GMW 37).
31. dyrchafael Mae tystiolaeth y llsgrau rywfaint yn gryfach o blaid y ffurf hon na dyrchafel GDG.