kowydd merch ar keiliog bronfraith
1 lle digri fedd i bvm heddiw
2 dan fentyll y gwrddgyll gwiw
3 yn gwrando ddechrau dydd
4 y keiliog bronfraith kelfydd
5 yn kanv englynion kein alathr
6 arwyddion a llithion llathr
7 pellenig pwyll i anwyd
8 pell i siwrnair llattai llwyd
9 yna i doeth o swydd goeth gaer
10 am i erchi om evrchwaer
11 geiriog hyd heb vn gair gwarant
12 nef i kyrch i nentyrch nant
13 am danaw y roedd gasmmai
14 o flodav mwyn gangav mai
15 [895] ai gassvl dybygessynt
16 o esgyll gwyrdd fentyll gwynt
17 ni doedd myn duw mawr
18 ond avr oll yn do ir allawr
19 morfydd ai hanfonassai
20 mydr gan odiaeth mab maeth mai
21 mi a glown mewn golevgloywaith
22 ddatganv nid methv maith
23 ddarllain ir plwyf nid rrwyf rrvs
24 yfengil yn ddi fyngvs
25 kodi ar fryn yn yna
26 afrlladen o ddeilien dda
27 at eos gain fain fangaw
28 o gwr y llwyn gar i llaw
29 klerwraig nant i gant a gan
30 kloch aberth klav a chwiban
31 a drychafel yr aberth
32 hyd y nen ywch ben y berth
33 a chrefydd in dofydd dad
34 a charegl nwyf a chariad
35 bodlon wyf{uriad} ir ganiadaeth
36 bedlwyn or koed mwyn ai maeth
Dauidd ap glm ai kant