1 Lle digrif y bvm heddiw
2 Dan fentyll y gwyrddgyll gwiw
3 Yn gwrando ddechrev dydd
4 Y celiog bronfraith celfydd
5 Yn canv ynglynn alathr
6 [119v] Arwyddion a llithion llathr
7 Pellennig pwyll i annwyd
8 Pell yw siwrneiai'r llattai llwyd
9 Yma y doeth o swydd goeth gaer
10 Am i erchi om evrchwaer
11 Geiriog hyd pan gaer gwarant
12 sef y cyrch i nentyrch nant
13 Am danaw yr oedd gasmai
14 O flodav mwyn geingiav mai
15 Ai gasvl dybygesynt
16 O esgyll gwyrdd fentyll gwynt
17 Nid oedd yna myn Duw mawr
18 Ond avr oll yn do'r allawr
19 Morfydd ai hanfonassai
20 Mydr ganiadaeth mab maeth mai
21 mi a glywn mewn gloywiaith
22 ddatganv nid methv maith
23 ddarllain i'r plwyf nid rhwyf Rhvs
24 Efengyl yn ddifyngvs
25 kodi ar fryn yn yna
26 [120r] Afrlladen o ddeilien dda
27 Ac eos gain fain fangaw
28 O gwr y llwyn ger i llaw
29 klerwraig nant i gant a gân
30 cloch aberth clav a chwiban
31 A dyrchafel yr Aberth
32 hyd y nen vwch ben y berth
33 A chrefydd i'n dofydd dad
34 A charegl nwyf a chariad
35 Bodon wyf i'r ganiadaeth
36 Bedwlwyn or coed mwyn ai maeth
Da' ap Glm'