1 Lle digri y bum heddiw
2 Dan ventyll y gwyrdd gyll gwyll
3 Yn gwrando ddechreu dydd
4 Y keilioc bronvraith kelfydd
5 Yn kanu englyn alathr
6 Mwyddion a llithion llathr
7 Pellennic pwyll i annwyd
8 Pell i siwrnai r llatai llwyd
9 Yma doyth o swydd goyth gaer
10 Am i erchi om eurchwaer
11 Geirioc hyd pann gair gwarant
12 Sef i kyrch y nentrych nant
13 Am danaw yr oydd gasmai
14 O vlodau mwyn gaingiau mai
15 Ac assul dybygessynt
16 O esgyll gwyrdd ventyll gwynt
17 Nid oydd yna myn duw mawr
18 Ond aur oll yn dor allawr
19 Morvydd ai hanvonassai
20 Mydr ganiadaeth mab maeth mai
21 [5v] Mi a glywn mewn gloyw iaith
22 Ddatkanu nid methu maith
23 Ddarllain ir plwyf nid rhwyf rhus
24 Evengil yn ddivyngus
25 Kodi ar vrynn yn yna
26 Afrlladen o ddeilien dda
27 Ac eos gain vain vangaw
28 O gwrh y llwyn ger i llaw
29 Klerwraic nant i gant a gan
30 Kloch aberth klau a chwiban
31 A dyr chavael yr aberth
32 Hyd y nen vwch ben y berth
33 A chrevydd in dovydd dad
34 A charegl nwyf a chariad
35 Bodlon wyf ir ganiadaeth
36 Bedlwyn or koyd mwyn ai maeth
dd ap gwilym