1 Lle digri y bum heddiw
2 dann fentyll y gwyrddgyll gwiw
3 yn gwrando ddechreu dydd
4 y keilioc bronvraith kelvydd
5 yn kanu ynglyn alathr
6 arwyddion a lithion lathr
7 pellennic pwyll i anwyd
8 pell i siwrneiai /r/ llattai llwyd
9 yma doyth o swydd goythgayr
10 am I erchi om eurchwayr
11 geirioc hyd pan gayr gwarant
12 sef i kyrch i nentyrch nant
13 am danaw yr oydd gasmai
14 o vlodau mwyn geingiau mai
15 ai gassul dybygessynt
16 o esgyll gwyrdd ventyll gwynt
17 Nid oedd yna myn duw mawr
18 ond aur oll yn dor allawr
19 Morvydd ai hanvonnassai
20 Mydr ganiadaeth mab maeth Mai
21 Mi a glown mewn gloywiaith
22 ddatganun nid methu maith
23 ddarllan ir plwyf nid rwyf rus
24 Evengil yn ddi vyngus
25 kodi ar vryn yn yna
26 arlladen o ddeilien dda
27 ac eos gain vain vangaw
28 o gwr y llwyn gar i llaw
29 klerwraig nant i gant a gan
30 kloch aberth klau a chwiban
31 a dyrchavel yr aberth
32 hyd y nen uwch ben y berth
33 A chrevydd in dovydd dad
34 A charegl nwyf a chariad
35 Bodlon wyf ir ganiadaeth
36 Bedlwyn or koyd mwyn ai maeth
dauid ap gwilim ai kant