{kowydd ir keiliog bronfraith a anfonase Vorvydd}
1 Lle digrif y bvm heddiw
2 dan ventyll y gwyrddgyll gwiw
3 yn gwrando ddechreu dydd
4 y ceiliog bronvraith celvydd
5 yn canv ynglyn a lathr
6 arwyddion a llithion llathr
7 pellenic pwyll i annwyd
8 pell siwrneiair llatai llwyd
9 yma doeth o swydd goeth Gaer
10 am i erchi o'm eurchwaer
11 geiriog hyd pan gair gwarant
12 sef i cyrch i nentyrch nant
13 am danaw yroedd gasmai
14 a blodau mwyn geinciau mai
15 ai gasul dybygesynt
16 o esgyll gwyrdd ventyll gwynt
17 nid oedd yna myn Duw mawr
18 ond aur oll yn dor allawr
19 Morvudd ai hanvonasai
20 mydr ganiadaeth mab maeth mai
21 mi a glywwn mewn gloywiaith
22 ddatcanv nid methu maith
23 [343] ddarllain ir plwyf nid rhwyf rhus
24 Evangel ynddivyngus
25 codi ar vryn yn yna
26 afrlladen o ddeilien dda
27 ag eos gain vain vangaw
28 o gwr y llwyn gaer illaw
29 clerwraig nant i gant a gan
30 cloch aberth clau a chwiban
31 a dyrchavael yr aberth
32 hyd y nen vwchben y berth
33 a chrefydd in dovydd dad
34 a charegl gwiw a chariad
35 bodlon wyf ir caniadaeth
36 bedlwyn or coed mwyn ai maeth
Dauid ap Gwilim
Nodiadau
23-36 wedi'u dileu yn yr un inc