â â â Y Llwyn Celyn
1â â â Y celynllwyn, cofl iawnllwyth,
2â â â Caer ar ael ffridd, cwrel ffrwyth,
3â â â Côr gweddaidd nis diwraidd dyn,
4â â â Clos tew diddos ty deuddyn,
5â â â Twr i feinwar i'w harail
6â â â Pigau ysbardunau dail.
7â â â Gwr wyf yn rhodio ger allt
8â â â Dan goedydd, mwynwydd manwallt.
9â â â Rhad a geidw rhydeg adail!
10â â â Rhodiais wydd, dolydd a dail.
11â â â Pwy mewn gaeaf a gafas
12â â â Mis Mai yn dwyn lifrai las?
13â â â Cof y sydd, cefais heddiw
14â â â Celynllwyn yn nhrwyn y rhiw,
15â â â Un gadair, serchog ydoedd,
16â â â Un lifrai â Mai ym oedd;
17â â â Cadeirged lle cad organ,
18â â â Cadrblas uwch piler glas glân;
19â â â Pantri cerdd uwch pant eiry cawdd,
20â â â Pentis, llaw Dduw a'i peintiawdd.
21â â â Deuwell y gwnaeth, ddyn diwael,
22â â â Rhyw ford deg i Robert hael.
23â â â Hywel Fychan hael fuchydd,
24â â â Geirddwys gwawd, gwyr ddewis gwydd,
25â â â Moli a wnaeth, nid milain,
26â â â Angel coed, fy ngwely cain:
27â â â Hardd osglau uwch ffiniau ffyrdd,
28â â â Tew, byrwallt was tabarwyrdd;
29â â â Trefn adar gwlad baradwys,
30â â â Teml gron o ddail gleision glwys.
31â â â Nid fal henfwth, lle glwth glaw.
32â â â Diddos fydd dwynos danaw.
33â â â Dail ni chrinant-ond antur?-
34â â â Celyn, un derfyn â dur.
35â â â Ni thyn gafr hyd yn Hafren
36â â â Un baich o hwn, na bwch hen,
37â â â Penfar heyrn, pan fo'r hirnos
38â â â A rhew ym mhob glyn a rhos.
39â â â Ni chyll pren teg ei ddegwm
40â â â Er llef gwanwynwynt oer llwm,
41â â â Siamled, cywir dail irion,
42â â â Cysylltiedig uwch brig bron.