Y Llwyn Celyn
Y llwyn celyn, ei gynnyrch yn llwyth sylweddol,
caer ar gyrion y ffridd, ei ffrwyth [megis] cwrel,
cangell osgeiddig na fydd neb yn ei difetha,
4 lle caeedig a thrwchus a chlyd yw cartref y cariadon,
twr [yn llawn] pigau ysbardunau dail
er mwyn yr un osgeiddig a gwylaidd i'w hamddiffyn.
Un wyf fi sy'n cerdded ger y llechwedd
8 o dan y coed, y llwyni â'u gwallt mân a thyner.
Crwydrais trwy goedydd, dolydd a dail.
Bydded i [Dduw a'i] fendith ddiogelu'r adeilad tra phrydferth.
Pwy a welodd fis Mai yn gwisgo
12 siaced werdd gefn gaeaf?
Heddiw gwelais y llwyn celyn yn eithaf y llechwedd,
[da y] cofiaf amdano,
a chanddo'r un plethwaith o ganghennau a'r un wisg â mis
Mai
16 yn fy ngolwg, un hynaws ydoedd;
rhodd o frigau a oedd yn gartref i organ,
neuadd hardd ar ben colofn bur ac iraidd;
pantri cerdd uwchlaw'r dyffryn a'i eira llidiog,
20 pentis, Duw â'i law a'i peintiodd.
Llawer gwell na hyn oedd y modd y gwnaeth [Duw], fy
nghariadferch luniaidd,
rhyw fwrdd hardd i Robert hael.
Hywel Fychan hael ei ymarweddiad,
24 helaeth [yw] ei eiriau moliant, gall ddethol y coed
[gorau],
moli a wnaeth ef fy ngwely prydferth,
angel y coed, nid cnaf mohono:
canghennau heirdd a thrwchus uwchlaw cyrion y llwybrau,
28 gwas byr ei wallt a gwyrdd ei glogyn;
ystafell adar gwlad paradwys,
teml gron o ddail ir a phrydferth.
Annhebyg [yw hwn] i hen loches, man [lle y cais] y glaw
[feddiannu popeth] yn farus.
32 Clyd fydd [bod] o dan [ei gysgod] am ddwy noson.
Ni fydd y dail celyn yn crino (annhebygol yw hynny),
[y mae] eu blaenau megis cleddyfau.
Ni fydd yr un afr na'r un bwch gafr salw hyd afon Hafren
36 yn tynnu un llwyth [oddi arno]
pan fyddo'r nos yn hir a'r rhew ym mhob glyn a rhos,
penffrwyn a wnaed o haearn.
Ni fydd y pren hardd yn colli ei flaenffrwyth
40 er gwaethaf gwyntoedd oer a llwm y gwanwyn a'u cri,
camlad plethiedig uwch brigau'r llechwedd,
ffyddlon yw'r dail iraidd.