1 Y kelynllwyn kyfilownllwyth
2 Cael ar ael ffriw cwrel ffrwyth
3 Cor gweddaidd nis diwraidd dyn
4 Clos tew diddos tyn dauddyn
5 Twr i veinwar i 'marail
6 Pigau yspardunau dail
7 Gwr wy yn rhodio gwar allt
8 Dan goedydd mwynwydd manwallt
11 Pwy mewn gaiaf a gafas
12 Mis Mai yn dwyn lifrai las
13 Cof y sydd cefais heddiw
14 Celynllwyn yn rhwyn y rhiw
15 Vn gadair serch vn gadoedd
16 Vn lifrai a Mai ym oedd
17 Cadeirgoed lle caid organ
18 Cadarblas uch piler glas glan
19 Pantri'r gerdd uch paentiwr gawdd
20 Pentis llaw Ddeo ai paentiawdd
21 Deuwell y gwnaeth dyn diwael
22 Riw bort tec i Robert hael
23 [570] Howel Vychan hael vuchedd
24 Gair dwys gwawd gwyr dewis gwedd
25 Moli a wnaeth nid milain
26 Angel coed yngolwc cain
27 Hardd osclau uch ffiniau ffyrdd
28 Tew byrwallt was tabur wyrdd
29 Trefn adar gwlad baradwys
30 Temyl gron o ddail gleision glwys
31 Nid val hen vwth glwth glaw
32 Diddos vydd dwynos danaw
33 Dail ni chrinant ond antur
34 Celyn vn derfyn a dur
35 Ny chny cafr hyd vor Hafren
36 Vn baich o hwn na bwch hen
37 Pan vo'r heyrn pan vo'r hirnos
38 A rhew ymhop glyn a rhos
41 Siaplet gowir ddail irion
42 Gyssylltedic uch bric bron
Dauid ap Gwilim