1 y kelynllwyn cyfliw iownllwyth
2 go arail ffriw cwrel ffrwyth
3 twr gweddaidd nis diwraidd dyn
4 glos tew diddos tv devddyn
5 [209v] twr i feinwar yw harail
6 pigav ysbardynav dail
31 nid fel henfwth llei glwth glaw
32 diddos fydd dwynos danaw
7 gwr wyf yn rhodio gwarr allt
8 dan goedydd manwydd mwynwallt
9 rhad a geidw rhiw deg adail
10 rhodiais wydd a dolydd dail
11 pwy mewn gayaf a gafas
12 vel mai yn dwyn lifrai las
13 cof y sydd cefais heddiw
14 celyn llwyn ynrhwyn y rhiw
15 yn gadair serchog ydoedd
16 vn lifrai a mai vm oedd
17 kadeirgoed lle i ceid organ
18 kadeirblas piler glas glan
19 pantri cerdd nid peintiwr cawdd
20 prentis llaw dduw ai preintiawdd
21 Devwell i gwnaeth duw diwael
22 rvw barck teg no rhobart hael
23 howel vychan hael vychydd
24 gair dwys gwawd gwyrdewis gwydd
25 moli a wnaeth nid milain
26 ag el coed yn gogel cain
29 tyrfa adar gwlad baradwys
30 teml gronn o ddail gleission glwys
37 poen ywr heyrn penn for hirnos
38 a rhew ymhob llwyn a rhos
39 ni chvll prenn teg i ddegwm
40 er llef y gwanwyn llwm
33 dail ni chrinant o natvr
34 celyn vn derfyn a dvr
35 [210r] ni ffawr gafr hyd hafren
36 vn baych o hwnn na bywch hen
41 siamled cowirddail irion
42 kyssylltiedig ywch brig bron
27 hardd osglav ywch ffiniav ffyrdd
28 tew byrrwallt was tabarwyrdd
dd ab gwm ai kant