â â â Lladrata Haf
1â â â Digrif fu fy ngwaith neithiwyr
2â â â Rhwng gras a dawn brynhawn hwyr,
3â â â Cyfliw gwr, cael ei garu,
4â â â Glew rhwng llen dew, â llwyn du.
5â â â Ceiliog bronfraith cyweithias
6â â â Odduwch fy mhen ar len las
7â â â Yn gyrru, cynnyrch cyrch cof,
8â â â Coelfain enw, calon ynof.
9â â â 'Gwyddwn yt gyngor gwiwdda,
10â â â Hir ddyddiau Mai: os gwnai, gwna,
11â â â Ac eistedd dan fedw gastell -
12â â â Duw a wyr na bu dy well -
13â â â A than dy ben gobennydd
14â â â O fanblu, gweddeiddblu gwydd,
15â â â Ac uwch dy ben, fedwen fau,
16â â â Gaer loywdeg o gwrlidau.'
17â â â Nid wyf glaf, ni fynnaf fod,
18â â â Nid wy' iach, myn Duw uchod,
19â â â Nid wyf farw, 'm Pedr ddiledryw,
20â â â A Duw a farn nad wyf fyw.
21â â â Bei cawn un, eiddun addef,
22â â â Gras dawn oedd gan Grist o nef,
23â â â Ai marw'n ddiran annerch
24â â â Ai byw'n ddyn syw i ddwyn serch.
25â â â E' fu amser, neur dderyw,
26â â â Och fi, ban oeddwn iach fyw,
27â â â Na châi Grist, uchel Geli,
28â â â Ledrata haf arnaf i!