Testun Golygedig: 41 - Lladrata Haf

Lladrata Haf

Digrif fu fy ngwaith neithiwyr
Rhwng gras a dawn brynhawn hwyr,
Cyfliw gŵr, cael ei garu,
4 Glew rhwng llen dew, â llwyn du.
Ceiliog bronfraith cyweithias
Odduwch fy mhen ar len las
Yn gyrru, cynnyrch cyrch cof,
8 Coelfain enw, calon ynof.

   'Gwyddwn yt gyngor gwiwdda,
Hir ddyddiau Mai: os gwnai, gwna,
Ac eistedd dan fedw gastell –
12 Duw a ŵyr na bu dŷ well –
A than dy ben gobennydd
O fanblu, gweddeiddblu gwŷdd,
Ac uwch dy ben, fedwen fau,
16 Gaer loywdeg o gwrlidau.'

   Nid wyf glaf, ni fynnaf fod,
Nid wy' iach, myn Duw uchod,
Nid wyf farw, 'm Pedr ddiledryw,
20 A Duw a farn nad wyf fyw.
Bei cawn un, eiddun addef,
Gras dawn oedd gan Grist o nef,
Ai marw'n ddiran annerch
24 Ai byw'n ddyn syw i ddwyn serch.

   E' fu amser, neur dderyw,
Och fi, ban oeddwn iach fyw,
Na châi Grist, uchel Geli,
28 Ledrata haf arnaf i!