Lladrata Haf
Hyfryd fu fy ngwaith neithiwr
rhwng gras a dawn [yn] hwyr y prynhawn,
[pan oedd] gwr yr un lliw - [yn] cael ei garu,
4 un glew yng nghanol llen drwchus - â llwyn du.
[roedd] ceiliog bronfraith hynaws
uwch fy mhen ar len las
yn gyrru - cynnyrch cyrch [y] cof,
8 enw [o] newyddion da - calon ynof.
'Fe wn gyngor gwiwdda iti
[yn] nyddiau hir Mai: os wyt am ei ddilyn, dilyn ef,
ac eistedd dan gastell [o] fedw -
12 Duw a wyr na bu dy gwell -
a gobennydd dan dy ben
o fân blu, plu gweddaidd [y] coed,
ac uwch dy ben, fy medwen,
16 gaer loywdeg o gwrlidau.'
Nid wyf glaf, ni fynnaf fod [felly],
nid wyf iach, myn Duw uchod,
nid wyf farw, myn Pedr uchel ei dras,
20 a Duw a farn nad wyf fyw.
Pe cawn un - cyffes ddymunol -
byddai'n rhodd o ras gan Grist o nef,
naill ai marw heb unrhyw gyfarch
24 neu fyw'n ddyn gwych yn profi serch.
Fe fu amser - mae wedi dod i ben,
och fi - pan oeddwn yn fyw [ac] iach,
na châi Crist, Arglwydd uchel,
28 ladrata haf oddi arnaf i!