GDG 36
Mae'r cywydd byr hwn yn agor ar nodyn ysgafn wrth i'r bardd ddisgrifio'r profiad hyfryd o fod yn y coed fin nos. Fel y gellid disgwyl, mae yno i gwrdd â'i gariad. Ond er iddo glywed y ceiliog bronfraith yn ei gynghori i dreulio dyddiau hir mis Mai yn y goedwig, daw'n amlwg nad yw ei gariad am gadw'r oed. Gan fynny, awgryma'r bardd ei fod yn bodoli mewn tir neb rhwng byw a marw a dywed mai bendith iddo fyddai cael marw heb ei gariad neu gael byw gyda hi. Gorffenna drwy edrych yn ôl ar amser hapusach pan na allai Crist ddwyn hyfrydwch yr haf oddi arno.
Ceir trafodaeth ar y gerdd hon ac aralleiriad ohoni gan R. Geraint Gruffydd, 'Athro Pawb Oedd', 17–8, 23.
Cynghanedd: croes 3 ll. (11%), traws 7 ll. (25%), sain 11 ll. (39%), llusg 7 ll. (25%).
Un fersiwn cynnar sydd i'r cywydd hwn, sef yr un a ddiogelwyd yn Llyfr Gwyn Hergest ac a gopïwyd yn Pen 49, Wy 2 a LlGC 5269.
2. Rhwng Am yr ystyr yma, gw. GPC 3109 3.(a) 'Yn dynodi natur gynhwysol dau neu ragor o bobl, eitemau..., gan gyfrif ynghyd..., o ganlynaid i'.
byrnhawn Mae darlleniadau Pen 49 a LlGC 5269 yn awgrymu mai dyma oedd darlleniad LlGH (ac nid brynhawn fel yn Wy 2). Ceir enghreifftiau o ffurfiau gyda thrawsosod (-yr- am -ry-) o'r 13g. ymlaen, gw. 146.22n a GPC 2923.
3–4. Cyfliw gŵr .../...â llwyn du. Ymadrodd cyffredin, gw. G 210 d.g. kyfliw a HGK 77 (16.8n).
3. cael ei garu Cyfeiriad at y bardd ei hun, sy'n ymweld â'r coed er mwyn caru â merch.
4. llen Yma'n drosiad am y coed.
5. ceiliog bronfraith Mae canu fin nos yn nodweddiadol o'r fronfraith (Turdus philomelos), gw. Stanley Cramp et al. (gol.), Handbook of the birds of Europe, the Middle East and North Africa: the birds of the Western Palearctic, vol. 5: tyrant flycatchers to thrushes (Oxford, 1988), 994: 'Strong tendency for song to be concentrated in early morning and evening'.
cyweithias Ymddengys mai dyma oedd ffurf LlGH, er mai cyweithas a geir yn GDG. Fel y dengys GPC 831, roedd y ffurf cyweithias i'w chael yn y 14g.
7. Gellid atalnodi'n wahanol yma: 'Yn gyrru cynnyrch, cyrch cof'. Byddai'r darlleniad hwn yn fwy derbyniol yn ôl safonau cynganeddu y 15g. a chyfnodau diweddarach, ond yn y 14g. nid oedd yn rhaid i'r orffwysfa ddilyn elfen gyntaf y gynghanedd sain.
9–10. Cf. GDG 169 (63.65–6) 'Gwyddwn yt gyngor gwiwdda, / Cyn dêl Mai, ac o gwnai, gwna. Ond ni dderbyniwyd y cwpled yn y golygiad presennol o'r gerdd ('Cyngor y Bioden'), gw. 36.64 a'r nodyn cyfatebol.
10. gwnai Ffurf 2 un.pres.myn. gwneud yw 'gwnai' (= 'gwnei' mewn Cymraeg Diweddar).
12. na bu dŷ well Byddai'r darlleniad 'na bu dy well' hefyd yn bosibl, er nad mor ystyrlon. Mae treiglad meddal (yma ar ôl tŷ) mewn ymadrodd negyddol i'w gael yn gyffredin gan y Cywyddwyr, gw. TC 66–7.
14. Cymh. 133.30 Cydblethu gweddeiddblu gwŷdd.
15. fedwen fau Mae'r ceiliog bronfraith yma yn disgrifio'r fedwen fel ei eiddo ef. Nid ei chyfarch yn uniongyrchol y mae felly, ond ei henwi mewn cyfosodiad â'r trosiad amdani yn y ll. nesaf.
18. wy' Mae Pen 49 a Wy 2 yn cytuno yma yn erbyn wyf GDG.
19. farw, 'm Pedr Sylwer bod rhaid ynganu'r cyfuniad hwn yn ddeusill.
21–4. Y gystrawen yma yw 'Bei [= 'pe'] cawn un ai marw'n ddiran annerch ai byw'n ddyn syw i ddwyn serch, gras dawn oedd [= fyddai] gan Grist o nef'.
22. Gras dawn Mae gras a dawn ill dau'n e.c., ac ymddengys mai ystyr yr ymadrodd yw 'rhodd [= dawn] gras, rhodd o ras'. Disgwylid felly dreiglad i dawn, ond y mae -s derfynol gras yn rhwystro hynny, gw. TC 60–1 a J. Morris-Jones: CD 230–1.
23. marw'n Cf. ll. 19n. Gellid hefyd ddilyn Wy 2 a darllen marw yn.
25. E' fu Mae Pen 49 a Wy 2 yn cytuno yn erbyn GDG Ef fu.
neur dderyw Disgwylir treiglad meddal ar ôl neur, gw. TC 366. Awgryma darlleniadau Pen 49 a Wy 2 mai neur deryw a geid yn LlGH, ond yn orgraff y llsgr honno gallai d- sefyll am /δ-/.