1 Digrif fu fyngwaith naithiwyr
2 Rhwng gras a dawn byrnhawn hwyr
3 Cyfliw gwr cael ei garu
4 Glew rhwng llen dew a llwyn du
5 Cailiog bronfraith cywaithias
6 Odduwch fy-mhen ar len las
7 [56v] Yn gyrru cynnyrch cyrch côf
8 coelfain enw calon ynof
9 Gwyddwn i't gyngor gwiwdda
10 Hir ddyddiau mai os gwnai gwna
11 Ac eistedd dan fedw gastell
12 Duw a wyr na bu dy well
13 A than dy benn gobennydd
14 O fanblu gweddeiddblu gwydd
15 Ac vwch dy ben fedwen fau
16 gaer loywdeg o gwrlidau
17 Nid wyf glâf ni fynnaf fod
18 Nid wy iach myn Duw uchod
19 Nid wyf farw m Pedr ddiledryw
20 A Duw a farn nad wyf fyw
21 Be cawn vn eiddun adde
22 Gras dawn oedd gan Grist o nef
23 Ai marw'n ddirann annerch
24 Ai byw'n ddyn syw i ddwyn serch
25 E fu amser neur deryw
26 Och fi pan oeddwn iach fyw
27 Na chai Grist vwchel geli
28 Ledratta hâf arnaf fi
Da' ap Glm'