Pen 49, 56r–56v  
   
 
1    Digrif fu fyngwaith naithiwyr
2    Rhwng gras a dawn byrnhawn hwyr
3    Cyfliw gwr cael ei garu
4    Glew rhwng llen dew a llwyn du
5    Cailiog bronfraith cywaithias
6    Odduwch fy-mhen ar len las
7    [56v] Yn gyrru cynnyrch cyrch côf
8    coelfain enw calon ynof
9    Gwyddwn i't gyngor gwiwdda
10    Hir ddyddiau mai os gwnai gwna
11    Ac eistedd dan fedw gastell
12    Duw a wyr na bu dy well
13    A than dy benn gobennydd
14    O fanblu gweddeiddblu gwydd
15    Ac vwch dy ben fedwen fau
16    gaer loywdeg o gwrlidau
17    Nid wyf glâf ni fynnaf fod
18    Nid wy iach myn Duw uchod
19    Nid wyf farw m Pedr ddiledryw
20    A Duw a farn nad wyf fyw
21    Be cawn vn eiddun adde
22    Gras dawn oedd gan Grist o nef
23    Ai marw'n ddirann annerch
24    Ai byw'n ddyn syw i ddwyn serch
25    E fu amser neur deryw
26    Och fi pan oeddwn iach fyw
27    Na chai Grist vwchel geli
28    Ledratta hâf arnaf fi
 
    Da' ap Glm'