â â â Yr Annerch
1â â â Annerch, nac annerch, gennad,
2â â â Ni wn pwy-gwraig macwy mad.
3â â â Arch i'r ferch a anerchais
4â â â Ni wn pa beth, rhag treth trais-
5â â â Ddyfod yfory'n fore,
6â â â Pwl wyf, ac ni wn pa le.
7â â â Minnau a ddof, cof cawddsyth,
8â â â Ni wn pa bryd o'r byd byth.
9â â â O gofyn hi, gyfenw hawdd,
10â â â Poen eirchiad, pwy anerchawdd,
11â â â Dywed dithau dan dewi,
12â â â Ysgoywan wyf, 'Nis gwn i'.
13â â â O gwely deg ei golwg,
14â â â Er nas gwelych, nid drych drwg,
15â â â Gwiw loywbryd haul goleubrim,
16â â â Ar dy gred na ddywed ddim!