Yr Annerch
Annerch, paid ag annerch, gennad,
ni wn pwy-gwraig macwy da.
Gofyn i'r ferch a anerchais
4 ni wn pa beth, rhag treth trais-
ddod yfory'n fore
(pwl wyf) ond ni wn [i] ba le.
Minnau a ddof (cof diwyro ei lid)
8 ni wn pa bryd yn y byd byth.
Os gofyn hi (cyfenw dymunol,
poen deisyfwr) pwy a anerchodd,
dywed dithau dan dewi
12 (anwadal wyf), 'Nis gwn i'.
Os gweli un deg ei golwg,
er nas gweli (nid ymddangosiad drwg),
[merch] wych [a chanddi] bryd gloyw haul plygeiniol,
16 ar dy gred paid â dweud dim!