{kowydd krist ai 12 Apostol}
1 Da lluniodd Duw dull iownwedd
2 dwy vron mab Duw vry an medd
3 rhoed yn llew mewn tabl newydd
4 ai Lvn wawr ar loywion wydd
5 er dangos yw eurglos ef
6 y deuddeg oll ar dioddef
7 grasus yw ar groes y sydd
8 y dioddefawdd Duw Ddouydd
11 da llvniwyd Iesu Lwyd Lon
12 o ddysc abl ai ddisciblion
13 [378] tyfiad agwrdd twf digabl
14 tri ar ddeg pand teg y tabl
15 Duw ehvn sydd yn y cenawl
16 delw vwyn da i dyly vawl
17 ar deuddeg lawendeg lu
18 a roeswyd ynghylch Iesu
19 chwech o ran ar bob haner
20 dawn oll yn amgylch Duw ner
21 ar yr haner mvner mwyn
22 Deau iddo Duw addwyn
23 may Petr da i gwyr edrych
24 ac Ivan wiw amcan wych
25 a Philip oreuwib ras
26 gwyndroed yw a gwiw Andras
27 Iaco hael hoyw gu hylwydd
28 a Sain Simon rhoddion rhwydd
29 lliw'r aur ar y llaw arall
30 i'r arglwydd cain hylwydd call
31 y mae Pawl weddawl wiwddoeth
32 a Thomas gyweithas goeth
33 Bartho (nid rhaid ym wrthod)
34 Lameus, glaer weddus glod
35 mwythus liw Matheus lan
36 ag Iaco rhai diogan
37 Sain Sud o vewn sens hoywdeg
38 llyna'ntwy llinynau teg
39 llawn o rad ynt pellynt pwyll
40 lle doded mewn lliw didwyll
41 ystyr doeth ystoria deg
42 yw'r dydd a roed i'r deuddeg
43 i gerdded byd gyd ac ef
44 cain deddyf vawl cyn dioddef
45 gwedi'r loes ar groes y grog
46 a gafas Christ ar gyfog
47 ai varw ni bu overedd
48 a hefyd ac or byd i'r bedd
49 pan gyvodes Duw Iesu
50 yn gwir gar o'r ddaear ddu
51 [379] dug yn i blaid llygaid llus
52 y deuddeg anrhydeddus
53 Mab Mair a gair o gariad
54 ioresgyn tyddyn yn tad
+1 gair lles yw dwedyd Iesu
+2 a gorau gair gan Vair vv
+3 gair cariad yw or gadair
+4 ar mab rhad a gad o'r gair
+5 Duw yw'r gair diwyr gariad
+6 ar gair yw Duw or gwir dad
+7 Duw vo'n porth a'n cymorthwy
+8 Amen nid addvnwn mwy
Dauid ap Gwilim