1 Annerch nac annerch gennad,
2 ni wn pwy merch maccwy mad.
3 Ac arch ir ferch anherchais
4 ni wn pa beth rhac treth trais
5 Ddyfod yfory 'n fore
6 unpwl wyf ni wn pa le.
9 O gofyn hi gyfenw hawdd
10 paun eirchiad pw a'i hanerchawdd
11 Dywet dithau dan dewi
12 yscoewan wyf nas gwn i.
13 O gweli deg ei golwg
14 er nas gwelych nid drych drwg.
15 Gwiw loiw-bryd haul goleubrim
16 ar dy gred na ddywed ddim.
Dafydd ap Gwilym ai cant.