1 Annerch nac annerch genniad
2 Ni wn pwy merch ir makwy mad
3 Ac arch ir verch anerchais
4 Ni wn pa beth rhac treth trais
5 Ddyfod yvory yn vore
6 Pwl wyf ac ni wn pa le
7 A mine a ddof gof gwayw syth
8 Ni wn pa bryd or byd byth
9 O govyn hi gyvenw hawdd
10 Pa vn heirchiad pwy ai anherchawdd
11 [4r] Dywaid tithe dan dewi
12 Ysgoywan wyf nis gwn i
13 O gweli deg i golwc
14 Er nas gwelych nid drych drwc
15 Gwiw loywbryd haul goleubrim
16 Ar dy gred na ddywed ddim
Dd ap gwilm