1 Annerch nac annerch gennat
2 Ni wnn pwy gwraic makwy mat
3 Arch ir verch a annerchais
4 Ni wnn pa beth rac treth trais
5 Ddyvot y vory n vore
6 Pwl wyf ac ni wnn pa le
7 Minnav a ddof kof kowddsyth
8 Ni wnn pa bryt or byt byth
9 O govyn hi gyfenw hawdd
10 Poen eiriat pwy annerchawdd
11 Dywait tithev dan dewi
12 Ysgoywan wyf nis gwnn i
13 O gwely dec i golwc
14 Er nas gwelych nit drych drwc
15 Gwiw loywbryt haul golevbrim
16 Ar dy gret na ddywait ddim
Dauyth ap Glim'