1 Annerch nac annerch gennad
2 Ni wn pwy merch maccwy mad
3 Arch i'r ferch a annerchais
4 Ni wn pa beth rhag treth trais
5 Ddyfod yforu'n fore
6 Pwl wyf ac ni wn pa le
7 Minnau a ddôf cof cawddsyth
8 Ni wn pa bryd o'r byd byth
9 O gofyn hi gyfenw hawdd
10 Poenpavn airchiad pwy annerchawdd
11 Dywed dithau dan dewi
12 Ysgoewann wyf ni's gwn i
13 O gweli deg ei golwg
14 Er na's gwelych nid drych drwg
15 Gwiw loewbryd haul goleubrim
16 Ar dy gred na ddywed ddim
Da. ap Glm'
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetustum