2 Y Bardd yn erchi annerch i gariad
1 Annarch nag annerch gennad
2 ni wn pwy, merch, ir makwy mad
3 ag arch ir ferch anherchais
4 ni wn pa beth rhag treth trais
5 ddyfod y foru /n/ fore
6 pwl wyf ag ni wn pa le
7 a minne a ddof gof gwauwsyth
8 ni wn pa bryd or byd byth
9 o gofyn hi gu fenws hawdd
10 pa vn erchiad pwy ai nerchawdd
11 dowaid dithe dan dewi
12 ysgowuwan wy nis gwn i
13 o gweli deg i golwg
14 er nas gwelych nid drych drwg
15 gwiw loewbryd hael goleybrim
16 er dy gred na ddowed ddim
Dafydd ap Gwilim ai kant