â â â Cyrchu Lleian
1â â â Dadlitia'r diwyd latai,
2â â â Hwnt o'r mars dwg hynt i'r mai.
3â â â Gedaist, ciliaist, myn Celi,
4â â â Arnaf y mae d'eisiau di.
5â â â Dof holion, difai helynt,
6â â â Da fuost lle gwyddost gynt.
7â â â Peraist ym fun ar ungair,
8â â â Pâr ym weled merched Mair.
9â â â Dewis lyry, dos i Lan falch
10â â â Llugan, lle mae rhai lliwgalch.
11â â â Cais yn y llan ac annerch
12â â â Y sieler mawr, selwr merch.
13â â â Dywaid, glaim diwyd y glêr,
14â â â Hon yw'r salm, hyn i'r sieler,
15â â â A chwyn maint yw'r achwyn mau
16â â â A chais ym fynachesau.
17â â â Saint o bob lle a'm gweheirdd
18â â â Santesau hundeiau heirdd,
19â â â Gwyn eiry, arial gwawn oror,
20â â â Gwenoliaid, cwfeiniaid côr,
21â â â Chwiorydd bedydd bob un
22â â â I Forfudd, araf eurfun.
23â â â O'i caf innau rhag gofal
24â â â O'r ffreutur dyn eglur dâl,
25â â â Oni ddaw er cludaw clod,
26â â â Hoywne eiry, honno erod,
27â â â Da ddodrefn yw dy ddeudroed,
28â â â Dwg o'r côr ddyn deg i'r coed,
29â â â Câr trigain cariad rhagor,
30â â â Cais y glochyddes o'r côr,
31â â â Cais frad ar yr abades
32â â â Cyn lleuad haf, ceinlliw tes,
33â â â Un a'i medr, einym adail,
34â â â Â'r lliain du, i'r llwyn dail.