Cyrchu Lleian
Cymoda, negesydd prysur,
cer ar dy hynt o'r goror draw i'r gwastadedd.
Gadewaist, ffoaist, myn Duw,
4 mae dy angen di arnaf fi.
Gofynion mwyn, siwrnai berffaith,
da y gwnaethost o'r blaen yn y lle cyfarwydd.
Trefnaist ferch i mi trwy un gair,
8 trefna i mi weld merched Mair.
Dewisa lwybrau, cer i Lanllugan falch,
lle y mae rhai mor wyn â'r calch.
Chwilia yn yr eglwys a chyfarcha
12 geidwad mawr y carchar, gofalwr merch.
Dywed hyn i'r ceidwad,
hawl daer y beirdd, hon yw'r 'salm',
a chwyna mor fawr yw fy ngofid
16 a cheisia gael lleianod i mi.
Mae saint ym mhob man yn gwahardd i mi
santesau'r ystafelloedd cysgu hardd,
gwyn fel yr eira, tebyg i wawn yr allt,
20 gwenoliaid, trigolion cwfent yr eglwys,
chwiorydd bedydd bob un
i Forfudd, merch ddisglair dyner.
Os caf i rhag gofid
24 ferch ddisglair ei thalcen o'r ffreutur,
oni ddaw honno, lliw hyfryd eira,
er dy fwyn er gwaethaf pentyrru mawl,
offer da yw dy ddwy droed,
28 dere â merch deg o gôr yr eglwys i'r coed,
cyfeilles trigain anwylyd arall,
ceisia gael y glochyddes o gôr yr eglwys,
ceisia dwyllo'r abades
32 cyn lleuad haf, lliw cain heulwen,
un a ddaw, ein deildy,
â'r wisg o liain du, i'r llwyn dail.